Prag
Math | prifddinas, municipality with town privileges in the Czech Republic, district of the Czech Republic, etholaeth, capital of region, district town, clofan, region of the Czech Republic, municipality with authorized municipal office, dinas fawr, Czech municipality with expanded powers, administrative district of Czech municipality with expanded powers, administrative district of Czech municipality with authorized municipal office, cyrchfan i dwristiaid, municipality of the Czech Republic |
---|---|
Poblogaeth | 1,357,326 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bohuslav Svoboda |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Taipei |
Daearyddiaeth | |
Sir | tsiecia |
Gwlad | Gweriniaeth Tsiec |
Arwynebedd | 496.21 km² |
Uwch y môr | 235 metr |
Gerllaw | Afon Vltava, Čertovka, Botič, Dalejský potok, Prokopský potok, Říčanský potok, Lochkovský potok, Rokytka |
Yn ffinio gyda | Zeleneč, Zdiby, Úvaly, Černošice, Přezletice, Říčany, Květnice, Bořanovice, Jenštejn, Hovorčovice, Radonice, Hostivice, Roztoky, Jíloviště, Sibřina, Podolanka, Jinočany, Chrášťany, Dobrovíz, Vestec, Jesenice, Únětice, Zbuzany, Veleň, Šestajovice, Křenice, Ořech, Kněževes, Průhonice, Zlatníky-Hodkovice, Horoměřice, Kosoř, Čestlice, Tuchoměřice, Nupaky, Jirny, Dolní Břežany, Zvole, Prague-East District, Prague-West District, Central Bohemian Region |
Cyfesurynnau | 50.0875°N 14.4214°E |
Cod post | 100 00–199 00, 252 26, 252 28 |
CZ-10 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Prague City Assembly |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Prague |
Pennaeth y Llywodraeth | Bohuslav Svoboda |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 1,193,200 million Kč |
Prifddinas a dinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec yw Prag (Tsieceg: Praha , Almaeneg: Prag). Mae hi'n ddinas o tua 1.2 miliwn o drigolion ar lân Afon Vltava. Mae canolfan hanesyddol y ddinas ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Sefydlwyd y dref yn y nawfed ganrif ac mewn ychydig roedd llys brenhinol Bohemia yno. Roedd rhai o frenhinoedd Bohemia yn ymerodwyr yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Roedd y dref yn blodeuo yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg o dan reolaeth Siarl IV, a adeiladodd ran newydd y dref, Pont Siarl, Eglwys Gadeiriol San Vitus (eglwys gadeiriol Gothig hynaf yng Nghanolbarth Ewrop) a'r brifysgol, yr un hynaf yng Nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r Alpau.
Cyn 1784 roedd yna bedair ardal annibynnol: Hradčany (Ardal y Castell i'r gogledd o'r castell), Malá Strana (Ardal y Dref Lai i'r de o'r castell), Staré Město (Ardal yr Hen Dref ar lân ddwyreiniol yr afon gyferbyn â'r castell) a Nové Město (Ardal y Dref Newydd i'r de-ddwyrain o'r castell). Mae'r ddinas yn cynnwys nifer o drefi eraill heddiw, e.e. Josefov, Žižkov, Barrandov, Holesovice a Vyšehrad.
Lladdwyd hyd at 50,000 o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Natsïaid yn y ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
-
Eglwys Týn (chrám Panny Marie před Týnem), Hen Dref, Prag
-
Hen Neuadd y Dref (Staroměstská radnice), Hen Dref, Prag
-
Castell Prag dros yr Afon Vltava (Hradčany)
Gefeilldrefi
|