Sefydliad Wcráin

Sefydliad Wcráin
Enghraifft o:sefydliad diwylliannol, asiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Rhan oMinistry of Foreign Affairs of Ukraine Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
Gweithwyr35 Edit this on Wikidata
PencadlysKyiv Edit this on Wikidata
Enw brodorolУкраїнський інститут Edit this on Wikidata
RhanbarthKyiv Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ui.org.ua/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pencadlys Sefydliad Wcráin yn Kyiv

Sefydliad cyhoeddus yw Український інститут, Ukrayinsʹkyy instytut (Cymraeg: Sefydliad Wcráin neu Sefydliad Wcráin) sy'n cynrychioli diwylliant Wcráin yn y byd ac sy'n ffurfio delwedd gadarnhaol o'r Wcráin dramor. Sefydlwyd y Sefydliad gan Gabinet Gweinidogion Wcráin yn 2017 ac mae'n gysylltiedig â Gweinyddiaeth Materion Tramor Wcráin. Dechreuodd ei weithgareddau yn llawn yn ystod haf 2018, ar ôl penodi Volodymyr Sheiko fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yn dilyn gystadleuaeth agored, a chreu tîm o arbenigwyr.[1]

Amcanion

Cynyddu gwelededd rhyngwladol a gwella dealltwriaeth o Wcráin ymhlith pobl o ddiwylliannau eraill

  • Hyrwyddo iaith a diwylliant Wcráin yn rhyngwladol
  • Cefnogi symudedd rhyngwladol a hwyluso cyfnewid proffesiynol, cefnogi prosiectau cydweithredu rhyngwladol yn y diwydiannau creadigol, diwylliant, addysg a gwyddoniaeth
  • Rhannu profiad Wcráin o ddatblygiad cymdeithas sifil, adeiladu gwladwriaeth, ymrwymiad i egwyddorion rhyddid, democratiaeth ac undod cenedlaethol[2]

Blaenoriaethau'r Sefydliad

Logo wreiddiol Sefydliad Wcráin, 2019

Yn 2019, cynhaliodd y sefydliad 85 o brosiectau, gan gynnwys Gŵyl Cerddoriaeth Gyfoes Wcráin yn Efrog Newydd, Blwyddyn Diwylliant Awstria-Wcráin 2019, cyflwyniadau tywysyddion sain Wcreineg mewn amgueddfeydd ledled y byd, cyngherddau, digwyddiadau rhwydweithio, ac ati.[3]

Ffurfiwyd blaenoriaethau gweithgaredd Sefydliad Wcráin yn seiliedig ar:

  • Dwy sesiwn strategol fewnol ym mis Awst-Medi 2018;
  • Sesiwn strategol gyhoeddus y Sefydliad ar Hydref 18, 2018;
  • Sesiwn strategol ar ddiplomyddiaeth ddiwylliannol ar y cyd â Chronfa Ddiwylliannol Wcráin;
  • Ymgynghoriadau ag 80 o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector mewn diwylliant, diwydiannau creadigol ac addysg ym mis Awst-Rhagfyr 2018;
  • Ymgynghori ag arweinwyr tîm a rheolwyr rhaglen y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, y Česká centra, y Instytut Polski, Instytut Adama Mickiewicza, a Sefydliad Diwylliannol Lithwania;
  • Cyfarfodydd gwaith gyda phenaethiaid sefydliadau diwylliannol ac addysgol tramor yn Sbaen, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, a Gwlad Pwyl.

Mae blaenoriaethau gweithgaredd rhaglen Sefydliad Wcráin fel a ganlyn:

  • Cyflwyno diwylliant Wcreineg dramor;
  • Cyfranogiad Wcráin yn nigwyddiadau diwylliannol, addysgol a gwyddonol allweddol y byd;
  • Cyfnewidfeydd rhyngwladol a symudedd;
  • Prosiectau hyrwyddo;
  • Cefnogaeth i Astudiaethau Wcreineg;
  • Addysgu a hyrwyddo'r iaith Wcreineg dramor;
  • Llwyfan ymchwil.[4]

Sefydliadau tebyg

Mae Sefydlaid Wcráin yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddwy genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.