Stadiwm chwaraeon cenedlaethol yr Eidal yw'r Stadiwm Olympaidd Rhufain (Eidaleg: Stadio Olimpico. Fe'i lleolir yng nghyfadail chwaraeon y Foro Italico yn Rhufain. Adeiladwyd y stadiwm gwreiddiol ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1960, ond fe'i ail-adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 1990. Mae'r stadiwm yn dal tua 82,000 o bobl. Mae dau dîm pêl-droed y ddinas, S.S. Lazio ac A.S. Rhufain, ac mae nhw'n rhannu'r stadiwm.