Surat
Math | dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 5,935,000 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Gwjarati ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gujarat, Bombay State, Bombay Presidency ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 327 km² ![]() |
Uwch y môr | 13 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 21.205°N 72.84°E ![]() |
Cod post | 394 XXX , 395 XXX ![]() |
Porthladd yn nhalaith Gujarat yn India yw Surat (Gujarateg: સુરત). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 2007 tua 4 miliwn. Sutat yw dinas ail-fwyaf Gujarat a'r nawfed o ran maint yn India. Saif y ddinas ar Afon Tapti.
Yn ôl traddodiad lleol, sefydlwyd y ddinas ym mlynyddoedd olaf y 15g. Yn 1514 disgrifiodd y teithiwr Portiwgeaidd Duarte Barbosa y ddinas fel porthladd pwysig. Yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Mughal, Surat oedd porthladd pwysicaf yr ymerodraeth pan oedd Akbar, Jahangir a Shah Jahan ar yr orsedd.
Prif ddiwydiannau Surat yw tecstitlau a diewmwntau; caiff 92% o ddiemwntau'r byd eu torri a'u gloywi yn Surat. Yn y blynyddoedd diwethaf mae tŵf economaidd Surat wedi bod ymhlith yr uchaf yn India, 11.5% yn 2008.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Mini_Eiffel_Tower_at_Parle_Point_in_Surat.jpg/250px-Mini_Eiffel_Tower_at_Parle_Point_in_Surat.jpg)
Dolennau allanol
- Surat Archifwyd 2009-07-28 yn y Peiriant Wayback.