Tŵr Eiffel
![]() | |
Math | tŵr dellt, tŵr gwylio, atyniad twristaidd, tirnod ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gustave Eiffel ![]() |
Agoriad swyddogol | 31 Mawrth 1889, 15 Mai 1889 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | banks of the Seine ![]() |
Lleoliad | Champ de Mars ![]() |
Sir | 7fed arrondissement Paris ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 48.858296°N 2.294479°E ![]() |
Cod post | 75007 ![]() |
Rheolir gan | Société d'exploitation de la tour Eiffel ![]() |
Perchnogaeth | Llywodraeth Ffrainc, bwrdeistref Paris ![]() |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig, Historic Civil Engineering Landmark ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Haearn gyr, dur, puddled iron ![]() |
Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel (Ffrangeg tour Eiffel /tuʀ ɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y strwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.
Uchder gwreiddiol y tŵr oedd 312 metr, ond gan gynnwys y mast radio ar ei ben mae'n 324 metr (7 metr yn dalach na Pholyn Nebo, y strwythur uchaf yng Nghymru). Erbyn hyn, mae strwythur uwch i'w gael yn Ffrainc, polyn radio y llynges ger Rosnay sydd 357 metr o uchder. Gan mai mast yw tŵr Eiffel, yn hytrach nag adeilad fel y cyfryw, nid yw fel arfer yn ymddangos ar restrau o'r adeiladau uchaf yn y byd. Er enghraifft, yr entrychdy uchaf yn Ffrainc (ers 2011) yw Tour First yn ardal La Défense yn Courbevoie ar gyrion Paris, sydd 231 metr o uchder yn unig.
-
Adelewyrchiad mewn pyllau dŵr
-
Tân gwyllt 14 Gorffennaf 2006
-
Y tŵr yng ngolau'r nos