Veda
Enghraifft o'r canlynol | ysgrythurau a thestunau Hindŵaidd, casgliad llenyddol, Śruti, diwylliant archeolegol |
---|---|
Math | ysgrythur, gwaith llenyddol |
Awdur | Rishi |
Rhan o | llenyddiaeth Sansgrit, addoliad |
Iaith | Vedic Sanskrit |
Dechrau/Sefydlu | 15 g CC |
Genre | llenyddiaeth grefyddol, antholeg |
Olynwyd gan | Brahmana, Aranyaka, Upanishadau |
Yn cynnwys | Rig Veda, Yajurveda, Samaveda, Atharvaveda |
Enw brodorol | वेद |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff mawr o destunau sanctaidd sy'n deillio o'r India Hynafol yw'r Veda (Sansgrit: वेद, véda, "gwybodaeth"). Maent yn cynrychioli haen hynaf llenyddiaeth Sansgrit a'r ysgrythurau cynharaf yn Hindŵaeth.
Yn ôl traddodiad Hindŵaidd, mae'r Veda yn apauruṣeya "heb fod o waith dyn", am iddynt gael ei ddatguddio yn uniongyrchol i'r ddynolryw gan y duwiau, ac felly fe'u gelwir yn śruti ("yr hyn a glywir"). Adroddir mantras Vedig fel rhan o weddïau Hindŵaidd, mewn seremonïau crefyddol ac ar achlysuron arbennig eraill.
Mae'r testunau Vedig fel dosbarth wedi eu canoli o gwmpas y pedwar (turīya) Sarihitās neu Veda cysefin, gyda thri ohonynt yn ymwneud â yajna (offrymu) yn y grefydd Vedig wreiddiol (o Oes yr Haearn efallai), sef:
- Y Rig Veda, sy'n cynnwys dros fil o emynau i'w hadrodd gan y prif offeiriad;
- Y Yajur Veda, sy'n cynnwys fformiwlâu arbennig i'w hadrodd gan yr adhvaryu neu offeiriad defodol;
- Y Sama Veda, sy'n cynnwys fformiwlâu i'w llafarganu gan offeiriad arbennig.
Y pedwerydd yw'r Atharva Veda, sy'n gasgliad o swynion ac emynau.
Dros y canrifoedd, ac yn arbennig wrth i Hindŵaeth esblygu, mae gwahanol athroniaethau ac enwadau ar isgyfandir India wedi mynegi barn amrywiol ar y Veda. Gelwir yr ysgolion athroniaeth sy'n arddel y Veda yn eu crynswth yn "uniongred" (āstika). Ond mae traddodiadau eraill, yn enwedig Bwdhaeth a Jainiaeth, yn gweld y Veda fel gwaith athronwyr dynol yn hytrach na datguddiadau dwyfol ac felly nid ydynt yn destunau cysegredig yn y traddodiadau hynny; gelwir yr ysgolion hyn yn "anuniongred" (nāstika). Nid yw Siciaeth yn derbyn awdurdod dwyfol y Veda chwaith.