Voyager 1
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod |
---|---|
Màs | 815 cilogram, 733 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Rhaglen Voyager |
Olynwyd gan | Voyager 2 |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet |
Pellter o'r Ddaear | 155.653 uned seryddol |
Gwefan | http://voyager.jpl.nasa.gov |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Voyager 1 sy'n pwyso 722-kilogram (1,592 pwys) yn chwiliedydd gofod a lawnsiwyd gan NASA o Ganolfan Ofod, Kennedy, Fflorida ar 5 Medi 1977 ar berwyl i hedfan heibio'r planedau Iau a Sadwrn. Gyda chwiliedydd arall, Voyager 2, roedd Voyager 1[1] yn gyfrifol am dynnu'r lluniau gorau o'r planedau a'u lloerennau ac yn sgil y lluniau hyn, darganfuwyd llosgfynyddoedd ar Io, a gwnaethpwyd y mesuriadau mwyaf manwl o awyrgylch y lloeren Titan gan y ddau chwiliedydd. Ar hyn o bryd mae Voyager 1 ar ei ffordd allan o Gysawd yr Haul trwy wregys Kuiper a hi yw'r roced sydd wedi teithio bellaf o'r Ddaear erioed.[2][3]
Record Aur
Cariodd y roced (fel Voyager 2 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd)[4]. Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "Voyager (1 a 2) (NASA)". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 2017. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
- ↑ Clark, Stuart (13 Medi 2013). "Voyager 1 leaving solar system matches feats of great human explorers". The Guardian.
- ↑ "Voyagers are leaving the Solar System". Space Today. 2011. Cyrchwyd 39 Mai 2014. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Y Gymraeg yn y gofod". BBC Cymru Fyw. 15 Medi 2017.