Wallis Simpson

Wallis Simpson
GanwydBessie Wallis Warfield Edit this on Wikidata
19 Mehefin 1896 Edit this on Wikidata
Blue Ridge Summit Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 1986 Edit this on Wikidata
Villa Windsor Edit this on Wikidata
Man preswylBaltimore, Mayfair, Villa Windsor, Gif-sur-Yvette Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Oldfields School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcymdeithaswr, casglwr, pendefig Edit this on Wikidata
TadTeackle Wallis Warfield Edit this on Wikidata
MamAlice Montague Edit this on Wikidata
PriodEarl Winfield Spencer, Ernest Aldrich Simpson, Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PerthnasauS. Davies Warfield Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
Gwobr/auPerson y Flwyddyn Time Edit this on Wikidata

Cymdeithaswraig Americanaidd oedd Wallis, Duges Windsor (gynt Simpson, gynt Spencer, née Bessie Wallis Warfield, 19 Mehefin 189624 Ebrill 1986), a gymerodd y Tywysog Edward, Dug Windsor (brenin y Deyrnas Unedig gynt) fel ei trydydd gŵr.

Bu farw tad Wallisyn fuan wedi ei geni, a cafodd Wallis a'i mam gweddu eu cefnogi'n ariannol yn rhannol gan eu perthnasau a oedd yn gyfoethogach. Ysgarodd o'i phriodas cyntaf i swyddog forlu'r Unol Daleithiau wedi treulio nifer o gyfnodau arwahan. Ym 1934, yn ystod ei ail phriodas, honir iddo ddod yn feistres i Edward, Tywysog Cymru. Dyflwydd yn ddiweddarach, wedi i Edward esgyn i'r orsedd yn Frenin, ysgarodd Wallis ei ail gŵr a gofynnodd Edward iddi ei briodi.

Achosodd ewyllys y Brenin i brodi Americanes a oedd wedi ysgaru ddwywaith argyfwng cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig a'r Dominiwn, a arweiniodd yn y pen draw at y Brenin i ildio'r goron ym mis Rhagfyr 1936 er mwyn gallu priodi "the woman I love".[1] Wedi iddo ildio'r goron, cafodd Edward ei greu'n Ddug Windsor gan ei frawd Siôr VI. Priododd Edward a Wallis chwe mis yn ddiweddarach, ac adnabyddwyd Wallis yn swyddogol fel Dugies Windsor on heb y steil "Ei Mawrhydi".

Cyn, yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafodd y Dug a'r Dugies eu cyhuddo o gydymdeimlo gyda'r Natsiaid gan nifer o bol yn y llywodraeth a'r gymdeithas. Yn ystod yr 1950au a'r 1960au, bu'r ddau'n teithio'n nôl a blaen rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau, yn byw bywyd hamddenol fel enwogion cymdeithasol. Wedi marwolaeth y Dug ym 1972, bu'r Dugies yn byw'n unig ac i ffwrdd o lygad y cyhoedd. Bu ei bywyd preifat yn bwnc dyfaliadau a dadleuol yn gyhoeddus.

Cyfeiriadau

  1. Dug Windsor (1951). A King's Story. Llundain: Cassell and Co Ltd, tud. 413