Y Mers
Enghraifft o: | rhanbarth |
---|
- Am yr ardal ddaearyddol gyfoes, gweler Gororau Cymru.
Y Mers (Saesneg: The March(es)) yw'r enw Cymraeg am y tiriogaethau Normanaidd a orweddai rhwng y Gymru Gymreig annibynnol a Lloegr yn yr Oesoedd Canol.
Fe'i rheolid gan deuluoedd Normanaidd grymus o'u canolfannau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd. Yn raddol, trwy gydbriodas, cymathwyd y teuluoedd hyn i deuluoedd uchelwrol Cymreig a Seisnig ac mewn canlyniad mae haneswyr yn tueddu i'w galw yn Eingl-Normaniaid a/neu, yn fwy diweddar, yn Gambro-Normaniaid. Mae'r term yn cynnwys yr arglwyddiaethau mwy diweddar a grëwyd ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, e.e. Swydd y Waun, Brwmffild a Iâl ac Arglwyddiaeth Dinbych. Yn ogystal, mae tiriogaethau'r Normaniaid yn ne Cymru, o Went i Sir Benfro, yn cael eu cynnwys hefyd, fel rheol.
Rhestr arglwyddiaethau'r Mers
Mae'r rhestr yma[2][3] yn cynnwys unedau a grewyd gan yr arglwyddi Normanaidd yn ogystal ag unedau Cymreig - cymydau ac ati - a aeth i'w meddiant. Nodir yr enwau Saesneg/ffurfiau Seisnigaidd yn achos enwau sydd efallai'n llai cyfarwydd.
- Amwythig
- Arberth (Narberth)
- Blaenllyfni
- Brycheiniog
- Brwmffild a Iâl
- Buellt
- Caer
- Caerleon a Brynbuga (Caerleon and Usk)
- Cas-gwent (Strigoil neu Chepstow)
- Castell y maen (Hungtington)
- Cawrse (Caus)
- Cedewain a Ceri
- Cemais
- Clifford
- Colunwy (Clun)
- Croesoswallt
- Cydweli
- Daugleddau (neu 'Cas-wis')
- Deuddwr
- Dinbych
- Dyffryn Clwyd
- Elfael
- Cilgerran
- Ewias Lacy
- Y Fenni
- Gwerthrynion
- Gŵyr
- Henffordd
- Hwlffordd
- Is Cennen
- Llanandras (Presteigne)
- Llanhuadain (Llawhaden)
- Llansteffan
- Llanymddyfri
- Llwydlo (Ludlow)
- Maelienydd
- Maesyfed (Radnor)
- Mawddwy
- Morgannwg
- Mynwy a'r Teirtref (Monmouth and Threecastles)
- Pebidiog
- Penarlâg (Hawarden)
- Penfro
- Powys Wenwynwyn (Powisland)
- Talacharn (Laugharne)
- Trefaldwyn (Montgomery)
- Swydd y Waun (Chirkland)
- Wigmor (Wigmore)
- Ystrad Alun (Moldsdale)
- Y Teirswydd (Gorddwr, Llannerch Hudol, Ystrad Marchell)
- Trefynwy (Monnow neu Monmouth)
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Cyngor Sir Wrecsam, The Princes and the Marcher Lords
- ↑ R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), atodiad
- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.223, map Deddf Uno 1536