Ymosodiad Barcelona, Awst 2017
![]() | |
Enghraifft o: | ymosodiad terfysgol â cherbyd, llofruddiaeth dorfol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 17 Awst 2017 ![]() |
Lladdwyd | 14, 1, 1, 5, 2, 1 ![]() |
Rhan o | Jihadism in Spain ![]() |
Lleoliad | Barcelona ![]() |
Rhanbarth | Catalwnia ![]() |
![]() |
41°22′53″N 2°10′20″E / 41.381492°N 2.1722188°E

Ymosodiad gan derfysgwyr oedd Ymosodiad Barcelona a ddigwyddodd ar 17 Awst 2017 ar brif stryd Barcelona, Catalwnia, sef La Rambla. Gyrrwyd fan i lawr y stryd, liw dydd, gan ladd 13 o bobl ac anafu dros gant.[1][1][2][2] Dihangodd dau o'r drwgweithredwyr ar droed; daliwyd trydydd person gan heddlu Catalwnia (y Policia de la Generalitat de Catalunya - Mossos d'Esquadra) yn dilyn shootout.[3][4]
Credir i ddyn yn ei ugeiniau logi fan yn Ripoll, ond a ddywedodd wrth yr heddlu fod ei ddogfennau ID wedi'u dwyn. Yn ôl Asiantaeth Newyddion Amaq "milwyr y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS neu ISIL) oedd yn gyfrifol, yn dilyn galwad arnynt i weithredu yn erbyn gwledydd y gynghrair". [3]
Mae'r ymosodiad yn dilyn ffrwydriad y diwrnod cynt mewn tref arall yng Nghatalwnia, Alcanar. Ffrwydrwyd tŷ a lladdwyd un wraig. Dywedodd Josep Lluis Trapero, pennaeth y Mossos d'Esquadra fod y y ffrwydriad yn gysylltiedig â'r ymosodiad yn La Rambla. Pump awr wedi'r ymosodiad saethwyd pum person gan yr heddlu yn Nhalaith Tarragona, eto yng Ngatalwnia.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "At least 13 dead in van crash in Barcelona city center: media". 17 Awst 2017 – drwy Reuters.
- ↑ 2.0 2.1 "LIVE: 13 killed and 50 injured in Barcelona attack". Cyrchwyd 17 Awst 2017.
- ↑ 3.0 3.1 "Van crashes into dozens of people in Barcelona: police". Reuters. Cyrchwyd 17 Awst 2017.
- ↑ Ward, Victoria. "Barcelona crash: 'Two dead' as van ploughs into crowd at popular tourist area, as driver flees scene". telegraph.co.uk. The Telegraph. Cyrchwyd 17 Awst 2017.