Zaporizhzhia

Zaporizhzhya
Trem yn y nos ar Rodfa'r Gadeirlan (Prospekt Sobornyi), yng nghanol Zaporizhzhia.
Mathdinas fawr, dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlZaporozhzhia Edit this on Wikidata
Poblogaeth710,052 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 952 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRehina Kharchenko Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirZaporizhzhia urban hromada, Cyngor Dinas Zaporozhye, Zaporozhye okruga, Yekaterinoslav, Zaporizhzhia Governorate, Yekaterinoslav Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd331 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr86 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Dnieper Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.85°N 35.1175°E Edit this on Wikidata
Cod post69001–69124 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Zaporozhye Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
city head Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRehina Kharchenko Edit this on Wikidata

Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Zaporizhzhia yw Zaporizhzhia (Wcreineg: Запоріжжя, Rwseg: Запорожье trawslythreniad: Zaporozhye) a saif ar Afon Dnieper. Ei henw hanesyddol, hyd at 1921, oedd Oleksandrivsk (Wcreineg: Олекса́ндрівськ, Rwseg: Александровск Aleksandrovsk).

Codwyd cadarnle yma ym 1770, fel un o'r amddiffynfeydd ar hyd ffin ddeheuol Ymerodraeth Rwsia yn erbyn Chaniaeth y Crimea. Dewiswyd y safle am ei bod yn agos i bencadlys hanesyddol y Cosaciaid ar Ynys Khortitsa, i dde rhaeadrau'r Dnieper, er mwyn atgyfnerthu rheolaeth Rwsia ar Gosaciaid Zaporizhzhia yn sgil diddymu'r Hetmanaeth. Dyrchafwyd Oleksandrivsk yn dref ym 1806, a thyfodd yn gyffordd bwysig wrth gludo nwyddau, yn enwedig wedi adeiladu'r rheilffordd yn y 1870au.

Achoswyd difrod mawr i Oleksandrivsk yn ystod Chwyldro Rwsia (1917–20). Dan lywodraeth Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, ailenwyd ac adferwyd y dref, a ffynnai'r economi yn sgil adeiladu Gorsaf Drydan Dŵr y Dnieper ym 1927–32. Boddwyd rhaeadrau'r Dnieper o ganlyniad i'r argae a godwyd fel rhan o'r orsaf drydan dŵr. Dinistriwyd yr argae gan y Fyddin Goch ym 1941 er mwyn atal yr Almaen Natsïaidd rhag ei gipio. Ailadeiladwyd yr argae a'r pwerdy gan y llywodraeth Sofietaidd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd diwydiant meteleg Zaporizhzhia ar sail yr orsaf drydan dŵr, gan gynnwys gweithfeydd haearn a dur a melin stribedi a barrau, a cheir hefyd ffatrïoedd i gynhyrchu ceir ac offer trydanol ac i droi sgil-gynhyrchion côc yn gemegion diwydiannol.[1]

Gostyngodd y boblogaeth o 815,000 yn 2001 i 799,000 yn 2005,[1] ac i 755,000 yn 2016.[2]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Zaporizhzhya. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2022.
  2. (Saesneg) "Zaporizhia", Internet Encyclopedia of Ukraine (2016). Adalwyd ar 28 Mai 2022.