Gwlad_Belg
![]() | |
Koninkrijk België (Iseldireg) Royaume de Belgique (Ffrangeg) Königreich Belgien (Almaeneg) | |
![]() | |
Arwyddair | Eendracht maakt macht ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, talaith ffederal, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl | Belgae, Gallia Belgica ![]() |
Prifddinas | Dinas Brwsel ![]() |
Poblogaeth | 11,584,008 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | la Brabançonne ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Bart De Wever ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Nawddsant | Joseff ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cynghreiriaid, yr Undeb Ewropeaidd, Ewrop, Benelux, y Gwledydd Isel, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gorllewin Ewrop ![]() |
Arwynebedd | 30,688 km² ![]() |
Gerllaw | Môr y Gogledd ![]() |
Yn ffinio gyda | yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd ![]() |
Cyfesurynnau | 50.6411°N 4.6681°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Ffederal Gwlad Belg ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senedd Ffederal Gwlad Belg ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin y Belgiaid ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Philippe, brenin Gwlad Belg ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Belg ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Bart De Wever ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $599,880 million ![]() |
Arian | Ewro ![]() |
Canran y diwaith | 5.55 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.75 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.937 ![]() |
Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae hi'n ffinio â'r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.
Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.
Rhoddir yr enw "Talwrn Ewrop" ar Wlad Belg am fod nifer o frwydrau pwysig yn hanes Ewrop wedi eu hymladd yno.[1]
Rhanbarthau a thaleithiau
Rhennir y wlad yn dair rhanbarth, Rhanbarth Fflandrys, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas. Mae Fflandrys a Walonia yn cynnwys pum talaith yr un, tra nad yw Rhanbarth y Brifddinas yn rhan o'r system daleithiol.
Fflandrys
- Antwerp (prifddinas: Antwerp)
- Brabant Fflandrysaidd (prifddinas: Leuven)
- Dwyrain Fflandrys (prifddinas: Gent)
- Gorllewin Fflandrys (prifddinas: Brugge)
- Limburg (prifddinas: Hasselt)
Walonia
- Brabant Walonaidd (prifddinas: Wavre)
- Hainaut (prifddinas: Mons)
- Liège (prifddinas: Liège)
- Luxembourg (prifddinas: Arlon)
- Namur (prifddinas: Namur)
Ardaloedd ieithyddol
Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Ceir pedair o'r rhain:
- ardal ieithyddol yr Iseldireg
- ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
- ardal ieithyddol Ffrangeg
- ardal ieithyddol Almaeneg
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
- y Gymuned Iseldireg ei hiaith (Vlaamse Gemeenschap)
- y Gymuned Ffrangeg ei hiaith (Communauté Française)
- y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)
Gweler hefyd
- Rhestr Belgiaid enwog
- PuntVL - ymgyrch y gymuned Fflemaidd i ennill statws Parth Lefel Uchaf gwlad i Fflandrys
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 57.
|