Eddie Butler
Eddie Butler | |
---|---|
Ganwyd | Edward Thomas Butler 8 Mai 1957 Casnewydd |
Bu farw | 15 Medi 2022 Periw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, sgrifennwr chwaraeon, cyflwynydd chwaraeon |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 95 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Tîm Rygbi Pont-y-pŵl |
Safle | Wythwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd Edward Thomas Butler (8 Mai 1957 – 15 Medi 2022) yn newyddiadurwr, sylwebydd chwaraeon, nofelydd, a chyn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru, a enillodd 16 o gapiau dros tîm cenedlaethol Cymru gan sgorio 2 gais.[1]
Cefndir
Ganwyd Butler yng Nghasnewydd yn fab i Kenneth Butler a Margaret (née Asplen) roedd ei dad yn gweithio fel ymchwilydd i gwmni ICI fibres.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Trefynwy a Choleg Fitzwilliam, Caergrawnt lle enillodd radd BA mewn ieithoedd modern ym 1979.[3] Yn 2009 priododd Susan Roberts ac mae ganddynt dair merch a thri mab.[1]
Gyrfa rygbi
Chwaraeodd Butler fel rhif wyth yn nhîm gleision Prifysgol Caergrawnt ym 1976, 1977 a 1978.[4] Bu'n chware i dîm rygbi Pont-y-pŵl rhwng 1979 a 1985 gan ddod yn gapten ar y tîm rhwng 1982 a 1985. Chwaraeodd 16 gêm dros dîm Cenedlaethol Cymru gan chware ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Ffrainc ym 1980 yng Nghaerdydd. Bu Cymru yn fuddugol o 18 bwynt i 9. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ym 1984, collodd Cymru o 28 pwynt i 9. Yn ystod ei yrfa ryngwladol sgoriodd 8 bwynt trwy ddau gais dros ei wlad. Roedd yn gapten ar dîm Cymru ar chwe achlysur.[5] Ym 1983 roedd yn rhan o'r sgwad ar daith y Llewod i Seland Newydd, er na chafodd ei ddewis i chware mewn gêm brawf, bu hefyd yn chwaree i'r Barbariaid.
Gemau rhyngwladol
- 1980 Ffrainc ennill 18-9
- 1980 Lloegr colli 9-8
- 1980 Yr Alban ennill 17-6
- 1980 Iwerddon colli 21-7
- 1980 Seland Newydd colli 23-3
- 1982 Yr Alban colli 34-18
- 1983 Lloegr cyfartal 13-13
- 1983 Yr Alban ennill 19-15
- 1983 Iwerddon ennill 23-9
- 1983 Ffrainc colli 16-9
- 1983 Rwmania colli 24-6
- 1984 Yr Alban colli 15-9
- 1984 Iwerddon ennill 18-9
- 1984 Ffrainc colli 21-16
- 1984 Lloegr ennill 24-15
- 1984 Awstralia colli 28-9
Darlledwr
Wedi ymddeol o'r gêm mae Butler wedi gweithio fel awdur a darlledwr. Dechreuodd sylwebu ar gemau rygbi i adran chwaraeon y BBC ym 1985. Rhwng 1995 a 2006 bu'n cyflwynydd rheolaidd ar raglen rygbi BBC Cymru Scrum V. Yn 2006 bu'n holi Gareth Thomas am y rheswm pam bu i reolwr Cymru, Mike Ruddock, ymadael a'i swydd. Wrth wylio'r rhaglen yn ôl trawyd Thomas yn wael a bu'n rhaid iddo gael ei ddanfon i'r ysbyty ar frys.[6] Achosodd y cyfweliad anghydfod rhwng y BBC ac Undeb Rygbi Cymru a bu rhai'n honni mae dyna pam cafodd Butler ei ollwng o'r sioe.[7] Er iddo gael ei ollwng fel cyflwynydd Scrum V, bu'n dal i ymddangos ar y rhaglen yn achlysurol. Roedd yn sylwebu ar gemau'r chwe gwlad a gemau rhyngwladol eraill, yn aml gyda Brian Moore hyd 2018. Yn 2019 symudodd i gwmni darlledu Premier Sports fel sylwebydd ar gyfer gemau'r Pro 14.[8]
Yn ogystal â sylwebu ar rygbi mae Butler hefyd wedi sylwebu ar gampau yng Ngemau Invictus ac wedi sylwebu ar saethyddiaeth o'r Gemau Olympaidd.
Wrth baratoi i sylwebu nid yw Butler yn ysgrifennu llawer o nodiadau o flaen llaw, yn hytrach bydd yn ceisio amsugno cymaint o wybodaeth ag y gallai "fel disgybl yn cramio cyn arholiad".[9]
Tu allan i fyd y campau mae Butler wedi cyflwyno rhaglenni ar hanes hefyd Megis Wales and the History of the World (BBC1 Cymru) [10], Hidden Histories (BBC2), Welsh Towns at War (BBC1) [11] a dwy gyfres o Welsh Towns (BBC2 Cymru) yn 2015. Yn 2016 cyflwynodd raglen fywgraffyddol am Muhammad Ali ac yn 2018 ymddangosodd ar y cwis Celebrity Mastermind yn ateb cwestiynau arbenigol ar Ryfel Cartref Sbaen.[12]
Ysgrifennu
Rhwng 1991 a 1996 bu Butler yn brif ohebydd rygbi ar gyfer papurau The Observer a The Guardian [13]. Disgrifiodd ei arddull fel ysgrifennu adroddiad gêm, yn aml o dan bwysau amser, gan adrodd y stori nad yw o reidrwydd yn ddilyn llinell amser y gêm cyhyd ond yn ddarllen mewn modd sy'n ddifyr ac yn gyflawn.[14]
Mae Butler hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr am rygbi a thair nofel [11][15]
Gwaith elusennol
Yn 2010 aeth Butler ynghyd â 14 o gyn capteiniaid rygbi Cymru a'r prif hyfforddwr ar daith i gopa Kilimanjaro, mynydd uchaf Affrica. Roeddynt am gasglu £1miliwn ar gyfer ymchwil Canolfan Canser Ysbyty Felindre i ganser yr ysgyfaint.[16]
Mae Butler yn llysgennad i Prostate Cymru, sefydliad sydd yn codi ymwybyddiaeth o ganser y brostad.[17]
Gwleidyddiaeth
Ym mis Awst 2019 cyhoeddwyd bod Butler am fod yn un o brif siaradwyr gwadd mewn Rali dros Annibyniaeth i Gymru a drefnwyd gan YesCymru ac AUOB Cymru ym Merthyr Tudful.[18] Bu iddo siarad yn y rali a gynhaliwyd ar 7 Medi yn y dref.[19]
Marwolaeth
Bu farw yn ei gwsg yng ngwersyllfa mynydda Ecoinka yn ystod taith gerdded elusennol ar gyfer Prostad Cymru ym mynyddoedd yr Andes yn Peru. Roedd yn 65 mlwydd oed.[20]
Llyfryddiaeth
Llyfrau rygbi gan Eddie Butler
- The Tangled Mane: The Lion's Tour of Australia 2001 (Llundain: Bloomsbury, 2001)
- The Greatest Welsh XV Ever (Gwasg Gomer, 2011), ISBN 978-1848514089
Nofelau gan Eddie Butler
- The Head of Gonzo Davies (Gwasg Gomer, 2014), ISBN 978-1848518735
- Gonzo Davies, Caught in Possession (Gwasg Gomer, 2015), ISBN 978-1785620324
- The Asparagus Thieves (Gwasg Gomer, 2017) ISBN 978-1785622229
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (2018, December 01). Butler, Edward Thomas, (born 8 May 1957), broadcaster, journalist and writer. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Archifwyd 2019-08-21 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Planet rhif 219 Scrum Down in the Departure Lounge
- ↑ Prifysgol Caergrawnt From Blues to Les Bleus: Eddie Butler on Cambridge and the Rugby World Cup adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Ian Metcalfe to join RFU Council adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Sporting Heroes – Eddie Butler adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Wales OnLine 21 Chwefror 2006 Butler: Putting Alfie in firing line was unfair adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Wales OnLine 20 Gorffennaf 2006 Butler shown the door as 'Scrum V' presenter adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Wales OnLine 14 Awst 2018 Premier Sports confirm star-studded line-up of Welsh pundits for Guinness PRO14 coverage adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ BBC raise your game Raise Your Game: It's live television adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Daily Post Eddie Butler swaps rugby for history adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ 11.0 11.1 Wales OnLine 23 Awst 2014 My new life as a novelist': Eddie Butler on the First World War and the world of rugby fiction adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Eddie Butler ar IMDb adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ The Observer Profile eddie Butler adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ BBC Raise your game Eddie Butler shares his tips for writing a match report. adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Amazon - Awdur:Eddie Butler adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Wales OnLine 5 Ebrill 2010 Why Kilimanjaro can be a killer adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ Gwefan Prostate Cymru Archifwyd 2019-08-21 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ MERTHYR - MARCH FOR INDEPENDENCE adalwyd 21 Awst 2019
- ↑ cite web |url=https://www.youtube.com/watch?v=Nef8aqvYlfo&t=122s |title=Eddie Butler Speaking at March For Independence Merthyr Tydfil 2019 |publisher=Sianel Youtube YesCymru |access-date=27 Medi 2019}
- ↑ "Cyn-chwaraewr a sylwebydd rygbi, Eddie Butler wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2022-09-15. Cyrchwyd 2022-09-15.