Franz von Papen
Franz von Papen | |
---|---|
Ganwyd | Franz Joseph Hermann Michael Maria von Papen 29 Hydref 1879 Werl |
Bu farw | 2 Mai 1969 Sasbach |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, person milwrol |
Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Aelod o Landtag, Prwsia, Reich Chancellor in the Weimar Republic, Vice-Chancellor of Germany, Minister President of Prussia, Minister President of Prussia, ambassador of Germany to Austria, ambassador of Germany to Turkey, Canghellor yr Almaen, llysgennad |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Ganolog, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Tad | Friedrich von Papen |
Priod | Martha von Papen |
Plant | Friedrich Franz von Papen |
Llinach | Papen |
Gwobr/au | Knight Grand Cross of the Order of Pius IX, Bathodyn y Parti Aur, Knight Grand Cross in the Order of the Holy Sepulchre, War Merit Cross, Urdd Sofran Milwyr Malta, Urdd Marchogol y Beddrod Sanctaidd |
llofnod | |
Uchelwr, gwleidydd, swyddog milwrol a gwleidydd Almaenig a fu'n Ganghellor yr Almaen o dan arweiniad Adolf Hitler yn 1932 oedd Franz Joseph Hermann Michael Maria von Papen zu Köningen (29 Hydref 1879 – 2 Mai 1969) (ynganiad (help·info)). Roedd yn Is-Ganghellor yr Almaen rhwng 1933 a 1934.
Roedd yn aelod o grwp bychan a gynghorai'r Arlywydd Paul von Hindenburg ar ddiwedd Gweriniaeth Weimar. Credai Papen y gellid rheoli Hitler pan fyddai mewn grym ac i raddau helaeth, ef a berswadiodd Hindenburg i anwybyddu ei amheuon a phenodi Hitler yn Ganghellor mewn cabinet nad oedd o dan ddylanwad y Natsïaid. Fodd bynnag, yn fuan iawn gwthiwyd Papen a'i gynghreiriaid i'r naill ochr gan Hitler a gadawodd Papen y llywodraeth ar ôl Noson y Cyllyll Hirion, pan laddwyd rhai o'i gefnogwyr gan y Natsïaid.
Cefndir
Cafodd Franz von Papen ei eni i deulu aristocratiaid Catholigaidd yn Werl, Rhanbarth Westphalia.[1] Roedd yn fab i Friedrich von Papen zu Königen (1839 – 1906) ac Anna Laura von Steffens (1852 – 1939). Cafodd Franz von Papen ei addysgu fel swyddog milwrol. Yna gweithiodd fel attaché milwrol ym Mhalas y Kaiser cyn ymuno â 'Staff Cyfredinol yr Almaen' ym Mawrth 1913.
Yn Rhagfyr 1913 fe'i penodwyd i adran diplomyddol, fel attaché milwrol i Lysgennad yr Almaen (Johann Heinrich von Bernstorff) yn Unol Daleithiau America. Teithiodd yno i Fecsico yng ngwanwyn 1914 er mwyn fod yn dyst i 'r effaith a gafodd y chwyldro Mecsicanaidd ar y boblogaeth leol. Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst y flwyddyn honno, roedd yn ôl yn Washington, D.C.. Priododd Martha von Boch-Galhau (1880 – 1961) ar 3 Mai 1905.
Yn ystod y Rhyfel Byd, tra yn Washington D.C., dechreuodd ymgysylltu gyda gweithgareddau ysbïo. Oherwydd hyn, cafodd ei allforio yn ôl i’r Almaen ond ar y ffordd adref cafodd ei fagiau eu hatafaelu gan yr Americanwyr. Pan agorwyd fagiau pPapen, gwelsant 126 o stybiau siec yn ei fag. Roedd y rhain wedi eu hysgrifennu allan i asiantwyr Papen.
Yn Ebrill 1916, fe'i cyhuddwyd Papen gan rheithgor ffederal America, ar sail ei fod wedi cynllwynio i ddinistrio Camlas Welland yng Nghanada. Cafodd y cyhuddiad (neu'r 'ditiad') yma ei chodi yn 1932 pan ddaeth yn Ganghellor yr Almaen.[2] Yn hwyrach ymlaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Franz von Papen ei symud i’r Ffrynt Ddwyreiniol lle gwasanaethodd fel swyddog a symudwyd ef i Balesteina er mwyn gwasanaethu fel Uwch-gapten yn y fyddin Otomanaidd.
Gweithiodd fel cyfryngwr rhwng y fyddin Almaeneg a’r ‘Gwirfoddolwyr Gwyddelig' (a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel yr IRA). Ei swyddogaeth yn hyn oedd gwerthu arfau i’r Gwyddelod yn ystod Gwrthryfel y Pasg. 1916. Gweithiodd hefyd fel cyfryngwr i’r cenedlaetholwyr o India yn ystod y cynllwyn Hindŵ-Almaeneg. Ddychwelodd Papen yn ôl i’r Almaen yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel.
Blynyddoedd "Rhwng rhyfel"
Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfel ymunodd gyda’r ‘Blaid Ganolig’ gan sefydlu rhan o'r adain geidwadol. Roedd yn aelod o lywodraeth Prwsia o 1921 i 1932. Yn etholiad arlywyddol 1925, mi sonnodd Papen ei blaid gan gefnogi'r ymgeisydd adain-dde Paul Hindenburg dros ymgeisydd Plaid y Canolwyr – Wilhelm Marx.
Ar y cyntaf o Fehefin 1932, fe'i dyrchafwyd gan Franz von Papen yn Ganghellor yr Almaen; Kurt von Schleicher oedd wedi dewis y cabinet. Roedd yn aelod o'r Clwb "Deutscher Herrenklub".
Cyfeiriadau
- ↑ "Reich Chancellor Brüning's resignation" Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. from the site Biografie Willy Brandt.
- ↑ Current Biography 1941, pp. 651–653.