Ncuti Gatwa
Ncuti Gatwa | |
---|---|
Ganwyd | Mizero Ncuti Gatwa 15 Hydref 1992 Kigali |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor llwyfan |
Actor Rwandaidd-Albanaidd yw Mizero Ncuti Gatwa (/ˈʃuːti ˈɡætwɑː/ SHOO-tee GAT-wah[1]; ganwyd 15 Hydref 1992). Daeth i amlygrwydd fel Eric Effiong ar y gyfres gomedi-ddrama Sex Education ar Netflix, a enillodd iddo Wobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu a thri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau.[2][3][4][5][6] Yn 2022, cyhoeddwyd Gatwa fel ymgnawdoliad newydd o gymeriad y Doctor ar y gyfres BBC Doctor Who, sy'n golygu mai ef yw'r actor du cyntaf i arwain y gyfres.[7]
Bywyd cynnar
Ganed Gatwa yn Nyarugenge, Kigali, Rwanda, ar 15 Hydref 1992. [8][9] Mae ei dad, Tharcisse Gatwa, o Ardal Karongi yn Rwanda, yn newyddiadurwr gyda PhD mewn diwinyddiaeth.[10][11]
Yn ddiweddarach dihangodd y teulu o Rwanda yn ystod hil-laddiad Rwanda yn 1994 gan ymgartrefu yn yr Alban.[12] Buont yn byw yng Nghaeredin a Dunfermline. Mynychodd Gatwa Ysgol Uwchradd Boroughmuir ac Ysgol Uwchradd Dunfermline cyn symud i Glasgow i astudio yn y Royal Conservatoire of Scotland, gan raddio gyda BA mewn Actio yn 2013.[13][14]
Gyrfa
Ar ôl graddio, cafodd Gatwa ei dderbyn ar gynllun actorion graddedig y Dundee Repertory Theatre yn Dundee, yr Alban lle bu'n perfformio mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Victoria gan David Greig.[15][16] Cafodd rôl fychan yn y comedi sefyllfa Bob Servant yn 2014 oedd wedi ei leoli a'i ffilmio yn Dundee.[17]
Yn 2015, ymddangosodd mewn rôl gefnogol yn y gyfres fer Stonemouth, addasiad o nofel o'r un enw o 2012. Yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad Kneehigh Theatres o 946, a addaswyd o The Amazing Story of Adolphus Tips gan Michael Morpurgo. Roedd y stori yn adrodd hanes yr ymarferion ar gyfer glaniad D-Day yn Nyfnaint lle bu nifer o farwolaethau.[18] Chwaraeodd Gatwa ran Demetrius yng nghynhyrchiad 2016 o A Midsummer Night's Dream yn theatr Glôb Shakespeare; a gyfarwyddwyd gan Emma Rice.[19]
Ym mis Mai 2018, cafodd Gatwa ei gastio yng nghyfres ddrama gomedi Sex Education ar Netflix fel Eric Effiong.[17] Rhyddhawyd y sioe yn 2019 a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid.[20] Derbyniodd Gatwa ganmoliaeth am ei bortread o Eric gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, yn enwedig am y modd na chafodd ei gymeriad ei bortreadu fel ystrydeb o "gymeriad stoc o ffrind gorau du neu hoyw".[3][4] Mae wedi ennill clod eang am y rôl, sy’n cynnwys ennill Gwobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu yn 2020, ac ennill tri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau, un yn 2020, 2021 a 2022 yn olynol.[2][3][4][5][6]
Ar 8 Mai 2022, cyhoeddwyd bod Gatwa wedi’i gastio yn Doctor Who fel 15eg ymgnawdoliad o brif gymeriad y sioe, y Doctor.[21] Cafodd Gatwa gafodd ei gastio ym mis Chwefror,[22] ac ef fydd yr actor du cyntaf i chwarae'r cymeriad fel prif ran. Cyn hynny portreadwyd y 'Fugitive Doctor' gan y fenyw ddu Jo Martin mewn rhai penodau o gyfres 12 yn 2020.[23] Ar ddiwedd 2023 darlledwyd tair pennod arbennig ar gyfer pen-blwydd 60 mlynedd y sioe, gyda David Tennant yn dychwelyd yn y rhan. Erbyn diwedd y drydedd bennod, cyflwynwyd Gatwa fel y Doctor newydd, gan ymrannu oddi wrth y Doctor blaenorol. Bydd yn parhau mewn pennod Nadolig cyn ymddangos mewn cyfres llawn.[24]
Ffilmyddiaeth
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2019 | Horrible Histories: The Movie – Rotten Romans | Timidius | |
2021 | The Last Letter from Your Lover | Nick | |
2023 | Barbie | Artist Ken |
Teledu
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014 | Bob Servant | Male Customer | 1 pennod |
2015 | Stonemouth | Dougie | 2 pennod |
2019–2023 | Sex Education | Eric Effiong | Prif ran; 32 pennod |
2023- | Doctor Who | Y Doctor | Prif ran |
2024 | Masters of the Air | 2il Lt. Robert Daniels | 3 pennod |
Gemau fideo
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2022 | Grid Legends | Valentin Manzi | Llais a chipio symudiad |
Cyfeiriadau
- ↑ "Ncuti & Kedar from Sex Education Interview Each Other". Between 2 Favs. Netflix. 25 Ionawr 2020.
- ↑ 2.0 2.1 "From Ncuti Gatwa to floral tributes: this week's fashion trends". The Guardian. 1 Chwefror 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Lockett, Dee (22 Ionawr 2019). "Sex Education's Ncuti Gatwa Doesn't Want to Play the Gay Best Friend". Vulture. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Okundaye, Jason (22 Ionawr 2019). "Sex Education's vital, complex portrayal of black queer teenhood". Dazed (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ 5.0 5.1 Smith, Kate Louise (4 Mehefin 2020). "Ncuti Gatwa earns BAFTA nomination for Sex Education". PopBuzz.
- ↑ 6.0 6.1 "BAFTA TV 2021: Nominations for the Virgin Media British Academy Television Awards and British Academy Television Craft Awards". BAFTA. 28 Ebrill 2021. Cyrchwyd 28 Ebrill 2021.
- ↑ "Ncuti Gatwa is the Doctor". Doctor Who (BBC). Cyrchwyd 8 Mai 2022.
- ↑ Anderson, Gillian (5 Chwefror 2020). "Ncuti Gatwa Embraces His Electrifying Power". Teen Vogue. Cyrchwyd 10 Chwefror 2020.
- ↑ Negi, Shrishti (6 Chwefror 2019). "Ncuti Gatwa of 'Sex Education' on His Unapologetic & Carefree Portrayal of a Gay, Black Teenager". News18. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ Gatwa, Tharcisse (25 Mawrth 2009). "Victims or Guilty?". International Review of Mission (World Council of Churches) 88 (351): 347–363. doi:10.1111/j.1758-6631.1999.tb00164.x.
- ↑ "Ncuti Gatwa, Umunyarwanda wihagazeho muri filime 'Sex Education' yaciye ibintu kuri Netflix" (yn Nyanja). Isimbi.rw. 4 Chwefror 2019. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "BBC Scotland - BBC Scotland - Black and Scottish — 'I thought I was the only black person in the world'".
- ↑ "Ncuti Gatwa". Dundee Rep Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2020. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
- ↑ "BA Acting Showcase Class of 2013" (PDF). Royal Conservatoire of Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Ionawr 2019. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
- ↑ "Theatre review: Victoria, Dundee Rep". The Scotsman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-08.
- ↑ Volpe, Allie (4 Mehefin 2020). "Ncuti Gatwa Nearly Quit Acting—Then He Booked 'Sex Education'". Backstage.
- ↑ 17.0 17.1 "BBC One - Bob Servant, Series 2, The Van" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 2021-06-06.
- ↑ "946 review – Kneehigh's D-day drama brings cats and razzmatazz". The Guardian (yn Saesneg). 2015-08-05. Cyrchwyd 2021-01-13.
- ↑ "A Midsummer Night's Dream (2016)". player.shakespearesglobe.com. Cyrchwyd 2022-03-03.
- ↑ "Sex Education: Season 1". Rotten Tomatoes. Fandango. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
- ↑ Belam, Martin (8 Mai 2022). "Doctor Who: Ncuti Gatwa to replace Jodie Whittaker, BBC announces". The Guardian. Cyrchwyd 8 Mai 2022.
- ↑ Flook, Ray (8 Mai 2022). "Doctor Who: New Doctor Ncuti Gatwa Knew in February: "Been Emotional"". Bleeding Cool. Cyrchwyd 8 May 2022.
- ↑ Fullerton, Huw; Knight, Lewis (8 Mai 2022). "Ncuti Gatwa announced as the next Doctor in Doctor Who". Radio Times. Cyrchwyd 9 Mai 2022.
- ↑ Belam, Martin (2023-12-09). "Doctor Who: The Giggle - 60th anniversary special recap". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-12-09.