Nicotin

Clwb ysmygu; cyhoeddwyd y llun cyn 1859.

Alcaloid ydy nicotin a ganfyddir yn nheulu'r planhigyn Solanum, sydd o ran pwysau, yn 0.6 - 3.0% o dybaco.[1][2] Mae'n gweithio fel cemegolyn 'herbivore' sy'n effeithiol i ladd pryfaid; oherwydd hyn, cafodd nicotin ei ddefnyddio mewn pryfleiddiaid yn y gorffennol.[3]. Ceir gronyn bach ohono mewn planhigion eraill megis planhigyn ŵy a thomato.

Mewn crynodiadau isel (ar gyfartaledd bydd sigaret yn rhyddhau tua 1 mg o nicotîn a amsugnir), gweithreda'r sylwedd fel symbylydd mewn mamaliaid a dyma yw'r prif briodwedd sy'n gwneud person yn ddibynol ar ysmygu tybaco. Yn ôl yr American Heart Association, mae dibyniaeth ar nicotîn yn un o'r dibyniaethau anoddaf i'w ildio, tra bod y nodweddion fferyllegol ac ymddygiadol yn nodi fod rhoi'r gorau i tybaco yn debyg i'r nodweddion o roi'r gorau i heroin a chocên.[4] Mae cynnwys nicotîn wedi raddol gynyddu dros y blynyddoedd, a darganfu un astudiaeth fod cynnydd blynyddol o 1.6% ar gyfartaledd rhwng y blynyddoedd 1.6% rhwng 1998 a 2005. Gwlewyd hyn ym mhrif gategorïau po math o sigarennau.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Determination of the Nicotine Content of Various Edible Nightshades (Solanaceae) and Their Products and Estimation of the Associated Dietary Nicotine Intake". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2010-09-23.
  2. Smoking and Tobacco Control Monograph No. 9
  3. The Chemical Components of Tobacco and Tobacco Smoke
  4. "Nicotine Addiction", American Heart Association.
  5. Connolly, G. N; Alpert, H. R; Wayne, G. F; Koh, H (2007). "Trends in nicotine yield in smoke and its relationship with design characteristics among popular US cigarette brands, 1997-2005". Tobacco Control 16 (5): e5. doi:10.1136/tc.2006.019695. PMID 17897974.