Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari (Hwngareg: Magyar labdarúgó-válogatott) yn cynrychioli Hwngari yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (Hwngareg: Magyar Labdarúgó Szövetség) (MLSZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r MLSZ yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).