Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Malta (Malteg: Tim nazzjonali tal-futbol ta' Malta) yn cynrychioli Malta yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Malta (Malteg: Assoċjazzjoni tal-Futbol ta' Malta) (MFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r MFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).