Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Norwy (Norwyeg: Norges herrelandslag i fotball) yn cynrychioli Norwy yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Norwy (Norwyeg: Norges Fotballforbund) (NFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r NFF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).