Thomas Edward Ellis
Thomas Edward Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1859 Cefnddwysarn |
Bu farw | 5 Ebrill 1899 Cannes |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, llywydd corfforaeth |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Priod | Annie Jane Hughes Griffiths |
Plant | Thomas Iorwerth Ellis |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Am Tom Ellis, y gwleidydd Llafur ac wedyn SDP, gweler Robert Thomas Ellis.
Roedd Thomas Edward Ellis, neu Tom Ellis (16 Chwefror 1859 – 5 Ebrill 1899) yn wleidydd radicalaidd o Gymro ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd, a aned yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, Meirionnydd (Gwynedd). Ei fab oedd y llenor T. I. Ellis, a ysgrifennodd ei gofiant ar ôl ei farwolaeth.
Cefndir ac addysg
Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o Anghydffurfiwr a ffermai dyddyn yng Nghefnddwysarn, a'i wraig Elizabeth. Cafodd Tom Ellis ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala, lle daeth yn gyfaill i O. M. Edwards, ac aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth 1875 ac yna i'r Coleg Newydd, Rhydychen 1879, lle cafodd radd mewn Hanes.
Gyrfa gwleidyddol
Yn 1886 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Erbyn 1894 Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn San Steffan.
Gweithiai'n ddiwyd dros addysg Gymraeg (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor), datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth).
Sefydlwyd Cymru Fydd yn 1887 gan Tom Ellis. Prif amcan y mudiad oedd sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd gylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[1]
Ym mis Medi, 1890, gwnaeth araith enwog yn y Bala yn galw am senedd lawn i Gymru. Gyda'i gyfeillion agos D. R. Daniel a W. J. Parry, datblygodd gysyniad newydd o genedligrwydd Cymreig, wedi'i ysbrydoli gan yr alwad cynyddol am ymreolaeth yn Iwerddon. Yn ôl gweledigaeth Ellis byddai hanes Cymru, ei thraddodiadau, diwylliant a'i hiaith a llenyddiaeth, ynghyd â'r sefydliadau cenedlaethol oedd i ddod, yn ffurfio un uned organig gydag ysbyrd y werin yn ei uno. Mewn hyn o beth gwelai ei hun fel olynydd i'r sosialydd cynnar o Gymro Robert Owen o'r Drenewydd.[2]
Trwy gydol ei oes roedd ei iechyd yn fregus. Daliodd deiffoid tra'n teithio yn yr Aifft yn 1889. Bu farw ddeg mlynedd yn ddiweddarach yn Cannes, gan fyrhau gyrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.
Roedd yn anwyl iawn gan y werin a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.
Gwaith llenyddol
Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn llenyddiaeth ei wlad (golygodd gyfrol o waith Morgan Llwyd). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r wasg yng Nghymru ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r Goleuad, y South Wales Daily News, a'r Carnarvon and Denbigh Herald.
Teulu
Ar 1 Mehefin 1898 priododd Annie Jane Davies,[3] merch Robert Joseph Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion.[4] ac or-wyres y Parch. Peter Williams[5]. Bu iddynt un mab a anwyd ar ôl farwolaeth Tom Ellis, yr awdur a'r ysgolhaig Thomas Iorwerth Ellis.[6] Roedd yn daid i'r awdur a'r ymgyrchydd iaith Meg Elis
Llyfryddiaeth
- Llyfrau Tom Ellis
- T.E. Ellis, Speeches and Addresses (1912)
- Llyfrau amdano
- T.I. Ellis, Cofiant Tom Ellis, 2 gyfrol (1944, 1948)
- Neville Masterman, The Forerunner: the Dilemmas of Tom Ellis (1972)
- O. Llew Owain, Tom Ellis: Gwladgarwr a Gwleidydd (Caernarfon, 1916)
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Kenneth O. Morgan, Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980 (Rhydychen, 1981), tud. 113.
- ↑ Owain, O Llew (1916). Tom Ellis:Gwladgarwr a Gwleidydd. Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymraeg. t. 23.
- ↑ "DAVIES, ROBERT (1790-1841), blaenor Methodist | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
- ↑ "WILLIAMS, PETER (1723 - 1796), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
- ↑ "ELLIS, THOMAS IORWERTH (1899 - 1970), addysgydd ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Robertson |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1886 – 1899 |
Olynydd: Owen Morgan Edwards |