Thomas Iorwerth Ellis
Thomas Iorwerth Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1899 Gwynedd |
Bu farw | 20 Ebrill 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cofiannydd, ysgolhaig clasurol |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Cyflogwr | |
Tad | Thomas Edward Ellis |
Mam | Annie Jane Hughes Griffiths |
Priod | Mari Ellis |
Plant | Meg Elis |
Gwobr/au | OBE |
Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro o Gymru oedd Thomas Iorwerth Ellis a gyhoeddai wrth yr enw T. I. Ellis (19 Rhagfyr 1899 – 20 Ebrill 1970).
Ganwyd yn Llundain yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd.
Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.
Bywyd personol
Priododd Mary Gwendoline Headley (Mari Ellis) yn Ebrill 1949 a cawsant ddau o blant - Margaret Ann (sef Meg Elis, ganwyd 1950) a Rolant (ganwyd 1953). Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth.
Ganwyd ei wraig Mari ar 21 Gorffennaf 1913 yn Dylife a roedd yn llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Ysgrifennodd mewn sawl cylchgrawn a cyhoeddodd tri nofel. Cefnogodd waith ei gŵr gyda Undeb Cymru Fydd ac yn dilyn ei farwolaeth, golygodd nifer o'i lyfrau ar gyfer eu cyhoeddi. Bu farw hithau yn yn Aberystwyth ar 25 Ionawr 2015.[1]
Llyfryddiaeth
- Crwydro Ceredigion
- Crwydro Maldwyn
- Crwydro Meirionnydd
- Crwydro Mynwy
- Crwydro Sir y Fflint
- Eraill
- The Development of Higher Education in Wales (1935)
- Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
- Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.
- Dilyn Llwybrau (1967). Ysgrifau
- Life of Ellis Jones Griffith (1969)
Cyfeiriadau
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-09-19. Cyrchwyd 2020-09-28.