Volodymyr Zelenskyy
Volodymyr Zelenskyy | |
---|---|
Ffugenw | Зелёный |
Llais | Volodymyr Zelenskyy voice.ogg |
Ganwyd | 25 Ionawr 1978 Kryvyi Rih |
Man preswyl | Mariinskyi Palace, Erdenet, Kryvyi Rih |
Dinasyddiaeth | Wcráin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, digrifwr, cyflwynydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, diddanwr, canwr, digrifwr, gwneuthurwr ffilm, dyn sioe, KVN actor, dynwaredwr |
Swydd | Arlywydd Wcráin, Supreme Commander of the Armed Forces of Ukraine |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Servant of the People |
Arddull | parodi, comedi, digrifwch, dychan gwleidyddol |
Prif ddylanwad | Alexander Maslyakov |
Taldra | 167 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Gwas y Bobl |
Tad | Oleksandr Zelenskyj |
Mam | Rimma Zelenska |
Priod | Olena Zelenska |
Plant | Kyrylo Zelenskyi, Oleksandra Zelenska |
Gwobr/au | Diploma Anrhydeddus Gweinidogion Cabined Wcráin, Teletriumph, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Uwch-Groes o Urdd y Llew Gwyn, Grand Cross with collar of the Order of Vytautas the Great, State Award of Alexander Dubček, Tallin Medal, Person y Flwyddyn y Financial Times, Person y Flwyddyn Time, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of Viesturs, Order of Vytautas the Great, Urdd y Llew Gwyn, Philadelphia Liberty Medal, Boris Nemtsov Prize, Gwobr Sakharov, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr Siarlymaen, Gwobr Proffil Dewrder, Global Citizen Awards, Order of Liberty, weapon of honor, Order of the White Double Cross |
Gwefan | https://president.gov.ua |
llofnod | |
Gwladweinydd o Wcráin yw Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy[1][2] (Wcreineg: Володимир Олександрович Зеленський, [woloˈdɪmɪr olekˈsɑndrowɪdʒ zeˈlɛnʲsʲkɪj]; trawslythrennu: Folodymir Selensci; ganwyd 25 Ionawr 1978).[3] Roedd e'n actor a digrifwr cyn dod yn arlywydd yr Wcráin yn 2019. Enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang fel arweinydd yr Wcráin yn ystod y rhyfel yn ystod goresgyniad Rwsia ar y wlad.[4][3]
Cafodd Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy ei eni yn Kryvyi Rih, i rieni Iddewig.[5][6][7] Mae ei dad, Oleksandr Zelenskyy, yn athro ac yn bennaeth yr Adran Seiberneteg a Chaledwedd Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Economeg a Thechnoleg Talaith Kryvyi Rih; roedd ei fam, Rymma Zelenska, yn arfer gweithio fel peiriannydd. Enillodd radd yn y gyfraith gan Sefydliad Economeg Kryvyi Rih, oedd yn adran o Brifysgol Economaidd Genedlaethol Kyiv ar y pryd, ac sydd bellach yn rhan o Brifysgol Genedlaethol Kryvyi Rih.[6] Rwsieg yw ei iaith gyntaf, ond mae hefyd yn siarad Wcreineg.
Priododd Zelenskyy Olena Kiyashko ym mis Medi 2003.[6] Ganed merch gyntaf y cwpl, Oleksandra, ym mis Gorffennaf 2004.[6] Ganed eu mab, Kyrylo, ym mis Ionawr 2013.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ Mae enw Zelenskyy wedi'i drawslythrennu mewn sawl ffordd wahanol. Dickinson, Peter (9 Mehefin 2019). "Zelensky, Zelenskiy, Zelenskyy: Spelling Confusion Doesn't Help Ukraine". Atlantic Council (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mehefin 2019. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ Mendel, Iuliia (10 Mehefin 2019). "Dear colleagues, this is the official form of the last name that the President has in his passport. This was decided by the passport service of Ukraine. The President won't be offended if BBC standards assume different transliteration". @IuliiaMendel (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ 3.0 3.1 "Ukraine's Volodymyr Zelenskyy: From comedian to national hero". Deutsche Welle (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
- ↑ "Actor-turned-president Zelensky grows on stage as Ukraine's war-time leader". Times of Israel (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
- ↑ "ethnic Ukrainian father's farer's medal certificate" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mehefin 2020. Cyrchwyd 12 Hydref 2019.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 "Зеленский Владимир" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2019. Cyrchwyd 2 Ionawr 2019.
- ↑ Higgins, Andrew (24 Ebrill 2019). "Ukraine's Newly Elected President Is Jewish. So Is Its Prime Minister. Not All Jews There Are Pleased". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 25 Ebrill 2019.