A.C. Milan

A.C. Milan
A.C. Milan
Enw llawn Associazione Calcio Milan
(Cymdeithas Pêl-droed Milan).
Llysenw(au) Rossoneri
Il Diavolo
Sefydlwyd 1899
Maes San Siro
(Stadio Giuseppe Meazza)
Cadeirydd Baner Yr Eidal Silvio Berlusconi
Rheolwr Baner Yr Eidal Vincenzo Montella
Cynghrair Serie A
2021/22 1.

Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Serie A yn yr Eidal yw Associazione Calcio Milan. Mae'n un o glybiau pêl-droed enwocaf a mwyaf llwyddiannus Ewrop. Mae chwaraewyr A.C. Milan wedi bod yn bencampwyr Ewrop saith gwaith; dim ond Real Madrid gyda naw buddugoliaeth sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Maent wedi ennill pencampwriaeth Serie A 17 o weithiau; dim ond Juventus sydd wedi ei hennill fwy o weithiau.

Sefydlwyd y clwb fel clwb criced ym 1899 gan Brydeiniwr o'r enw Alfred Edwards. Mae'n rhannu stadiwm San Siro, sydd â 80,018 o seddi, gyda thîm pêl-droed arall dinas Milan, Internazionale. Perchennog y clwb yw Jason Wong.

Chwaraewyr enwog

Presennol

  • Filippo Inzaghi
  • Andrea Pirlo
  • Gennaro Gattuso
  • Clarence Seedorf
  • Alessandro Nesta
  • Gianluca Zambrotta
  • Massimo Ambrosini
  • Andriy Shevchenko
  • Ronaldinho

Cyn-chwaraewyr

  • Roberto Baggio
  • Franco Baresi
  • Gianni Rivera
  • Paolo Rossi
  • Jimmy Greaves
  • Marcel Desailly
  • Ruud Gullit
  • Patrick Kluivert
  • Frank Rijkaard
  • Cafu
  • Kaká
  • Paolo Maldini
  • Ronaldo
Serie A, 2014–2015

Atalanta | Cagliari | Cesena | Chievo | Empoli | Fiorentina | Genoa | Inter | Juventus | Lazio | Milan | Napoli | Palermo | Parma | Roma | Sampdoria | Sassuolo | Torino | Udinese | Verona