Fietnam

Fietnam
Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam
Cộng hòa xã hội chủ nghĩa Việt Nam
ArwyddairAnnibyniaeth – Rhyddid – Hapusrwydd Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth comiwnyddol, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNanyue Edit this on Wikidata
PrifddinasHanoi Edit this on Wikidata
Poblogaeth96,208,984 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Gorffennaf 1976 (uno gwleidyddol)
  • 2 Medi 1945 (datganiad o annibynniaeth)
  • 1804 (enw, –1839) Edit this on Wikidata
AnthemTiến quân ca Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPhạm Minh Chính Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00, Asia/Ho_Chi_Minh Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Fietnameg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia, Indo-Tsieina Edit this on Wikidata
GwladBaner Fietnam Fietnam
Arwynebedd331,690 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Pobl Tsieina, Cambodia, Laos Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau16°N 108°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Fietnam Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Fietnam Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Fietnam Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTô Lâm Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Fietnam Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPhạm Minh Chính Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Catholigiaeth, Protestaniaeth, Caodaism, Hòa Hảo Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$366,138 million, $408,802 million Edit this on Wikidata
Arianđồng Fietnam Edit this on Wikidata
Canran y diwaith2 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.06 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.703 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Fietnam (hefyd yn y Gymraeg: Fiet-nam; Fietnameg: Việt Nam, Saesneg: Vietnam), neu Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam (Fietnameg: Cộng hòa xã hội chủ nghĩa Việt Nam yn swyddogol). Y gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd, a Laos a Cambodia i'r gorllewin. Gorwedd Môr De Tsieina i'r dwyrain. Mae Fietnam hefyd yn rhannu ffiniau morwrol â Gwlad Tai trwy Gwlff Gwlad Thai, y Philipinau, Indonesia, a Maleisia trwy Fôr De Tsieina. Ei dinas fwyaf yw Dinas Ho Chi Minh (Saigon).

Gyda phoblogaeth o 96,208,984 (1 Ebrill 2019)[1] yn y cyfrifiad diwethaf, ac arwynebedd o 311,699 km sg, mae Fietnam yn un o'r gwledydd mwyaf dwys ei phoblogaeth yn Ne-ddwyrain Asia. Hanoi yw prifddinas y wlad, gyda phoblogaeth o 8,435,650 (2022)[2].

Roedd pobl yn byw yn Fietnam mor gynnar â Hen Oes y Cerrig (y Paleolithig). Canolfan y genedl Fietnamaidd gyntaf y gwyddys amdani yn ystod y mileniwm cyntaf CC oedd Delta'r Afon Goch, a leolir yng ngogledd Fietnam heddiw. Daeth Fietnam o dan lywodraeth Tsieineaidd (llinach neu frenhinlin Han) o 111 CC, nes i’r frenhinlin imperialaidd annibynnol gyntaf ddod i’r amlwg yn 939. Llwyddodd i amsugno dylanwadau Tsieineaidd trwy Gonffiwsiaeth a Bwdhaeth, gan ehangu tua'r de i Ddelta Mekong. Syrthiodd y Nguyễn - y llinach imperialaidd olaf - i wladychu Ffrengig ym 1887. Yn dilyn Chwyldro Awst, cyhoeddodd y cenedlaetholwr Việt Minh dan arweinyddiaeth y chwyldroadwr comiwnyddol Ho Chi Minh annibyniaeth oddi ar Ffrainc ym 1945.

Aeth Fietnam trwy sawl rhyfel gwaedlyd trwy'r 20g: ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd Ffrainc i adennill pŵer trefedigaethol yn Rhyfel Indo-Tsieina, gyda Fietnam yn fuddugol ym 1954. Dechreuodd Rhyfel Fietnam yn fuan wedi hynny, pan rannwyd y genedl yn Ogledd comiwnyddol gyda chefnogaeth yr Undeb Sofietaidd a Tsieina, a De gwrth-gomiwnyddol gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau. Ar fuddugoliaeth Gogledd Fietnam ym 1975, adunodd Fietnam fel gwladwriaeth sosialaidd unedol o dan Blaid Gomiwnyddol Fietnam ym 1976. Fe wnaeth economi aneffeithiol, embargo masnach gan y Gorllewin, a rhyfeloedd â Chambodia a Tsieina chwalu’r wlad. Ym 1986, cychwynnodd y Blaid Gomiwnyddol ddiwygiadau economaidd a gwleidyddol, gan drawsnewid y wlad yn economi sy'n canolbwyntio ar farchnad rydd.

Gwnaeth y diwygiadau hyn hi'n bosib i Fietnam ymuno â'r economi a gwleidyddiaeth fyd-eang.

Heddiw, mae'r wlad yn un sy'n datblygu gydag economi incwm canolig is, ac yn un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf yn yr 21g. Mae'n rhan o sefydliadau rhyngwladol a rhynglywodraethol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, yr ASEAN, APEC, CPTPP, y Mudiad Amhleidiol, y Sefydliad internationale de la Francophonie, a Sefydliad Masnach y Byd. Cymerodd sedd ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddwywaith. Ymhlith y materion cyfoes llosg yn Fietnam y mae llygredd a hawliau dynol gwael.[3][4]

Geirdarddiad

Daw'r enw Việt Nam o Nam Việt (yn llythrennol: "Việt y De"), enw y gellir ei olrhain yn ôl i linach Triệu yr 2g CC. [5] Caiff y term "Việt " ei ysgrifennu mewn Tsieinëeg Canol Cynnar gan ddefnyddio'r logograff "戉" gan ddefnyddio bwyell (homoffon), ac yn ddiweddarach fel "越".[6] Bryd hynny cyfeiriodd at bobl neu bennaeth i'r gogledd-orllewin o'r Shang.[7] O'r 3g CC defnyddiwyd y term ar gyfer poblogaethau di-Tsieineaidd de a de-orllewin Tsieina a gogledd Fietnam, gyda grwpiau ethnig penodol o'r enw Minyue, Ouyue, Luoyue (Fietnam: Lạc Việt), ac ati. Ymddangosodd y term Baiyue / Bách Việt gyntaf yn y llyfr Lüshi Chunqiu a luniwyd tua 239 CC.[8] Erbyn yr 17eg a'r 18g OC, mae'n debyg bod Fietnamiaid addysgedig yn cyfeirio atynt eu hunain fel nguoi Viet (pobl Fietnamaidd) neu nguoi nam (pobl ddeheuol).[9]

Hanes

Cynhanes

Photograph of a Đông Sơn bronze drum
Drwm efydd Đông Sơn c. 800 CC

Mae cloddiadau archeolegol wedi datgelu olion dynol yn yr hyn a elwir erbyn hyn yn Fietnam, mor gynnar â'r oes Paleolithig. Mae ffosiliau Homo erectus sy'n dyddio i oddeutu 500,000 CC wedi'u darganfod mewn ogofâu yn nhaleithiau Lạng Sơn a Nghệ An yng ngogledd Fietnam.[10] Mae'r ffosiliau Homo sapiens hynaf o dir mawr De-ddwyrain Asia o'r Pleistosen Canol, ac maent yn cynnwys darnau dannedd o Tham Om a Hang Hum,[11][12][13].

Erbyn tua 1,000 CC, arweiniodd datblygiadau tyfu reis ar dir gwlyb ar orlifdiroedd Afon Ma ac Afon Goch at lewyrch y diwylliant Đông Sơn,[14][15] sy'n nodedig am ei gastio efydd cywrain a'r drymiau Đông Sơn.[16][17][18] Ar y pwynt hwn, ymddangosodd teyrnasoedd cynnar Fietnam Văn Lang a Âu Lạc, a lledaenodd dylanwad y diwylliant i rannau eraill o Dde-ddwyrain Asia, gan gynnwys De-ddwyrain Asia, trwy gydol y mileniwm cyntaf CC.[17][19]

Fietnam Dynastig

Map of Vietnam in 1840
Y graddau mwyaf o Fietnam dynastig o dan yr Ymerawdwr Minh Mạng, c. 1840

Ystyrir llinach Hồng Bàng y brenhinoedd Hùng a sefydlwyd gyntaf yn 2879 CC fel y wladwriaeth Fietnamaidd gyntaf yn Hanes Fietnam (a elwid wedyn yn Xích Quỷ ac yn ddiweddarach yn Văn Lang).[20][21] Yn 257 CC, gorchfygwyd brenin olaf Hùng gan Thục Phán. Cyfunwyd y llwythau Lạc Việt a Âu Việt i ffurfio'r Âu Lạc, gan gyhoeddi ei hun yn An Dương Vương.[22] Yn 179 CC, trechodd cadfridog Tsieineaidd o'r enw Zhao Tuo An Dương Vương a chyfnerthu Âu Lạc i Nanyue.[23] Fodd bynnag, ymgorfforwyd Nanyue ei hun yn ymerodraeth llinach Han Tsieineaidd yn 111 CC ar ôl Rhyfel Han-Nanyue.[24][25]

Am y mil o flynyddoedd nesaf, arhosodd yr hyn sydd bellach yn ogledd Fietnam yn bennaf o dan lywodraeth Tsieineaidd.[26][27] Roedd symudiadau annibyniaeth gynnar, fel rhai'r Chwiorydd Trưng a'r Arglwyddes Triệu,[28] yn llwyddiannus am gyfnod,[29] er i'r rhanbarth ennill cyfnod hirach o annibyniaeth fel Vạn Xuân dan linach Anterior Lý rhwng 544 OC a 602 OC.[30][31][32] Erbyn dechrau'r 10g, roedd Fietnam wedi ennill ymreolaeth, ond nid sofraniaeth, o dan deulu Khúc.[33]

Daearyddiaeth

Images showing Hạ Long Bay, the Yến River and the Bản-Giốc Waterfalls
Atyniadau natur yn Fietnam, clocwedd o'r brig: Hạ Long Bay, Afon Yến a Rhaeadrau Bản-Giốc

Mae Fietnam ar Benrhyn dwyreiniol Indotsieina, rhwng y lledredau 8 ° a 24 ° Gog, a'r hydoedd 102 ° a 110 ° Dwy. Mae ganddo gyfanswm arwynebedd o oddeutu 331,212 km sg (127,882 mi sg). Gydag arfordir o 3,444 km (2,140 milltir), mae'n culhau yn Nhalaith ganolog Quảng Bình, sydd cyn lleied â 50 km (31 milltir) ar draws.[34] Mae tir Fietnam yn goediog ac yn fryniog iawn ar y cyfan, gyda thir gwastad yn gorchuddio dim mwy nag 20% o'r wlad. Mae 40% o arwynebedd y wlad yn fynyddoedd,[35] ac mae coedwigoedd trofannol yn gorchuddio tua 42%.[36] Ar un adeg roedd Gwlff Tongking yn gilfach ond mae dyddodion llifwaddodol wedi ei lenwi dros y milenia.[37][38] Gorchuddia'r delta tua 40,000 km sg (15,444 mi sg) ac mae'n wastadedd lefel isel heb fod yn fwy na thair metr uwch lefel y môr ar unrhyw bwynt. Mae rhwydwaith o afonydd a chamlesi yn eu croesi'n flith drafflith, gan gario cymaint o waddod nes bod y delta'n symud ymlaen 60 - 80 metr i'r môr bob blwyddyn.[37][39][40]

Image of the Hoàng Liên Sơn mountain range
Mynyddoedd Hoàng Liên Sơn, rhan o'r Fansipan sef y copa uchaf ar Benrhyn Indotsieina.

Rhennir De Fietnam yn iseldiroedd arfordirol, mynyddoedd Bryniau Annamite, a choedwigoedd helaeth. Mae'r ucheldiroedd yn cyfrif am 16% o dir âr y wlad a 22% o gyfanswm ei dir coediog, ac yn cynnwys pum llwyfandir cymharol wastad o bridd basalt.[41] Mae'r pridd yn llawer o ran ddeheuol Fietnam yn gymharol isel mewn maetholion o ganlyniad i dyfu dwys.[42]

Cofnodwyd sawl mân ddaeargryn yn y gorffennol, gyda'r mwyafrif wedi digwydd ger ffin ogleddol Fietnam yn nhaleithiau Điện Biên, Lào Cai a Sơn La, tra bod rhai wedi'u cofnodi ar y môr gyferbyn a chanol y wlad.[43][44] Mae rhan ogleddol y wlad yn cynnwys ucheldiroedd yn bennaf a Delta'r Afon Goch. Fansipan (a elwir hefyd yn Phan Xi Păng), sydd wedi'i leoli yn Nhalaith Lào Cai, yw'r mynydd uchaf yn Fietnam, yn sefyll 3,143 metr (10,312 tr) uchel, sef teirgaith maint yr Wyddfa.[45] O'r gogledd i dde Fietnam, mae gan y wlad nifer o ynysoedd; Phú Quốc yw'r mwyaf.[46] Ystyrir mai Ogof Hang Sơn Đoòng yw'r darn ogof mwyaf hysbys yn y byd ers ei ddarganfod yn 2009. Llyn Ba Bể ac Afon Mekong yw'r llyn mwyaf a'r afon hiraf yn y wlad.[47][48][49]

Hinsawdd

Photograph of Nha Trang beach with many high rise buildings behind it
Cyrchfan dwristaidd boblogaidd Nha Trang, hinsawdd savanna drofannol.

Oherwydd gwahaniaethau mewn lledred a'r amrywiaeth amlwg y tirwedd topograffig, mae hinsawdd Fietnam yn tueddu i amrywio'n sylweddol o ardal i ardal.[50] Yn ystod tymor y gaeaf (y tymor sych), rhwng Tachwedd ac Ebrill, mae'r gwyntoedd monsŵn fel arfer yn chwythu o'r gogledd-ddwyrain ar hyd arfordir Tsieina ac ar draws Gwlff Tonkin, gan godi llawer o leithder.[51] Mae'r tymheredd blynyddol ar gyfartaledd yn uwch yn y gwastadeddau nag yn y mynyddoedd, yn enwedig yn ne Fietnam o'i gymharu â'r gogledd. Mae'r tymheredd yn amrywio llai yn y gwastadeddau deheuol o amgylch Dinas Ho Chi Minh a Delta Mekong, yn amrywio rhwng 21 and 35 °C (69.8 and 95.0 °F) dros y flwyddyn.[52] Yn Hanoi ac ardaloedd cyfagos Delta Afon Goch, mae'r tymereddau'n llawer is rhwng 15 and 33 °C (59.0 and 91.4 °F).[52] Mae amrywiadau tymhorol yn y mynyddoedd, y llwyfandir a'r ardaloedd mwyaf gogleddol yn llawer mwy dramatig, gyda'r tymereddau'n amrywio o 3 °C (37.4 °F) ym mis Rhagfyr a Ionawr i 37 °C (98.6 °F) yng Ngorffennaf ac Awst.[53]

Yn ystod y gaeaf, mae eira weithiau'n cwympo dros gopaon uchaf y mynyddoedd gogleddol pell ger ffin Tsieina.[54] Mae Fietnam yn derbyn cyfraddau uchel o law, gyda chyfartaledd o 1,500 mm (59 mod) i 2,000 mm (79 mod) yn ystod tymhorau'r monsŵn; mae hyn yn aml yn achosi llifogydd, yn enwedig yn y dinasoedd sydd â systemau draenio gwael.[55] Effeithir ar y wlad hefyd gan iselderau trofannol, stormydd trofannol a theiffwnau.[55] Fietnam yw un o'r gwledydd mwyaf bregus o ran newid hinsawdd, gyda 55% o'i phoblogaeth yn byw mewn ardaloedd arfordirol drychiad isel.[56][57]

Bioamrywiaeth

Photographs of Native species in Vietnam the crested argus; the red-shanked douc, a monkey; the Indochinese leopard and the saola, a bovine.
Rhywogaethau brodorol yn Fietnam, clocwedd o'r dde uchaf: argus cribog, peafowl, douc coesgoch, llewpard Indotsieina, a saola .

Gan fod y wlad wedi'i lleoli o fewn y parth Indomalay, mae Fietnam yn un o ddau ddeg pum gwlad yr ystyrir eu bod yn meddu ar lefel eithriadol o uchel o fioamrywiaeth. Nodwyd hyn yn Adroddiad Cyflwr Amgylcheddol Cenedlaethol y wlad yn 2005.[58] Mae wedi'i osod yn 16ed ledled y byd o ran amrywiaeth fiolegol, gan ei fod yn gartref i oddeutu 16% o rywogaethau'r byd. Ceir 15,986 o rywogaethau o fflora ac mae 10% ohonynt yn frodorol. Mae ffawna Fietnam yn cynnwys 307 o rywogaethau o'r nematod, 200 oligochaeta, 145 acarina, 113 Collembola, 7,750 o bryfed, 260 o ymlusgiaid, a 120 o amffibiaid. Nytha 840 o adar a cheir 310 o famaliaid yn Fietnam, ac mae 100 o'r adar a 78 o'r mamaliaid hyn yn endemig.[58]

Yn Fietnam, gorwedda dwy Safle Treftadaeth Naturiol y Byd - Parc Cenedlaethol Bae Hạ Long a Pharc Cenedlaethol Phong Nha-Ke - ynghyd â naw gwarchodfa biosffer, gan gynnwys Coedwig Mangrof Cần Giờ Mangrove, Cát Tiên, Cát Bà, Kiên Giang, Delta'r Afon Goch, Delta Mekong, Gorllewin Nghệ An, Cà Mau, a Pharc Morol Cu Lao Cham.[59][60][61]

Y prif bryder amgylcheddol sy'n parhau yn Fietnam heddiw yw gweddillion y 'chwynladdwr cemegol Oren', a ddefnyddiwyd yn ystod Rhyfel Fietnam, sy'n parhau i achosi namau corfforol ar fabanod newydd eu geni a llawer o broblemau iechyd yn y boblogaeth. Mae tua 4.8 miliwn o bobl Fietnam wedi eu heffeithio ganddo, ac wedi dioddef o'i effeithiau.[62][63][64] Yn 2012, tua 50 mlynedd ar ôl y rhyfel,[65] sefydlodd yr Unol Daleithiau brosiect gwerth $43 miliwn er mwyn glanhau yr hen ardaloedd lle storiwyd y cemegau erchyll hyn yn Fietnam.[63][66] Ar ôl cwblhau'r cam cyntaf yn Đà Nẵng ddiwedd 2017,[67] cyhoeddodd yr UD ei ymrwymiad i lanhau safleoedd eraill, yn enwedig safle Biên Hòa, sydd bedair gwaith yn fwy na'r safle a gafodd ei drin yn flaenorol, ar gost o tua $ 390 miliwn. [68]

Llywodraeth a gwleidyddiaeth

Mae Fietnam yn weriniaeth sosialaidd un blaid Marcsaidd-Leninaidd, un o'r unig ddwy wladwriaeth gomiwnyddol (Laos yw'r llall) yn Ne-ddwyrain Asia.[69] Er bod Fietnam yn parhau i fod yn ymrwymedig yn swyddogol i sosialaeth fel ei chred ddiffiniol, mae ei pholisïau economaidd wedi tyfu'n fwy cyfalafol,[70][71] gyda'r Economegydd yn nodweddu ei harweinyddiaeth fel "comiwnyddion hynod gyfalafol".[72] O dan y cyfansoddiad, mae Plaid Gomiwnyddol Fietnam (CPV) yn ymdreiddio i fewn i bob cangen o wleidyddiaeth a chymdeithas y wlad.[69] Yr arlywydd yw pennaeth y wladwriaeth etholedig a phrif-bennaeth y fyddin, gan wasanaethu fel cadeirydd y Cyngor Amddiffyn Goruchaf a Diogelwch, ac mae'n dal yr ail swydd uchaf yn Fietnam yn ogystal â chyflawni swyddogaethau gweithredol a penodiadau gwladwriaethol a pholisi gosod.[69]

Milwrol

Photographs of Vietnam People's Armed Forces weaponry assets including a T-54B tank, a Sukhoi Su-27UBK fighter aircraft, a Vietnam Coast Guard Hamilton-class cutter, and a Vietnam People's Army chemical corps carrying a Type 56 assault rifle.
Enghreifftiau o arfau Lluoedd Arfog Pobl Fietnam.

Mae Lluoedd Arfog Pobl Fietnam yn cynnwys Byddin Pobl Fietnam (VPA), Diogelwch Cyhoeddus Pobl Fietnam a Milisia Amddiffyn Fietnam. Y VPA yw'r enw swyddogol ar wasanaethau milwrol Fietnam heddiw, ac mae wedi'i isrannu i Lluoedd Tir Pobl Fietnam, Llynges Pobl Fietnam, Llu Awyr Pobl Fietnam, Gwarchodlu Ffiniau Fietnam a Gwylwyr Arfordir Fietnam. Mae gan y VPA weithlu gweithredol o tua 450,000 o filwyr, ond gall cyfanswm y fyddin, o gynnwys grymoedd parafilwrol, fod cymaint â 5,000,000.[73]

Yn 2015, cyfanswm gwariant milwrol Fietnam oedd oddeutu US $4.4 biliwn, sy'n cyfateb i oddeutu 8% o gyfanswm gwariant y llywodraeth.[74] Cynhaliwyd ymarferion milwrol ar y cyd a gemau-rhyfel gyda Brunei,[75] India,[76] Japan,[77] Laos,[78] Rwsia,[79] Singapôr[75] a'r UD.[80] Yn 2017, llofnododd Fietnam gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.[81][82]

A Tay Ho Communist propaganda poster
Poster propaganda y Blaid Gomiwnyddol yn Hanoi

Hawliau dynol

O dan y cyfansoddiad presennol, y CPV yw'r unig blaid y caniateir iddi reoli; caiff pob plaid wleidyddol arall ei gwahardd. Mae materion hawliau dynol eraill yn ymwneud â rhyddid i gymdeithasu, rhyddid i lefaru, a rhyddid y wasg. Yn 2009, arestiwyd cyfreithiwr o Fietnam Lê Công Định a’i gyhuddo o fod yn chwyldröwr (neu'n 'chwyldroadwr'); arestiwyd sawl un o'i gymdeithion hefyd.[83][84] Disgrifiodd Amnest Rhyngwladol ef a'i gymdeithion a arestiwyd fel carcharorion cydwybodol.[83][85][86][87]

Is-adrannau gweinyddol

Rhennir Fietnam yn 58 talaith (Fietnam: Tỉnh, chữ Hán :).[88] Mae yna hefyd bum bwrdeistref (mawrnh phố trực thuộc trung ương), sydd yn weinyddol ar yr un lefel â thaleithiau.

Rhennir y taleithiau ymhellach yn fwrdeistrefi taleithiol (Thanh Pho Truc thuộc Tinh - Dinas dan y dalaith), trefgorddau (MTT XA) a siroedd (Huyen), sydd yn eu tro'n cael eu hisrannu'n drefi (MTT Tran) neu gymunedau (xa).

Economi

Cyfran o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y byd ( PPP ) [89]
Blwyddyn Rhannu
1980 0.18%
1990 0.23%
2000 0.32%
2010 0.43%
2018 0.52%

Trwy gydol hanes Fietnam, mae ei heconomi wedi'i seilio'n bennaf ar amaethyddiaeth - tyfu reis ar dir gwlyb, yn bennaf.[90] Mwyngloddir bocsit, deunydd pwysig wrth gynhyrchu alwminiwm, yng nghanol Fietnam.[91] Ers cael ei ailuno, mae economi'r wlad yn cael ei siapio'n bennaf gan y CPV trwy Gynlluniau Pum Mlynedd y penderfynir arnynt yn sesiynau llawn y Pwyllgor Canolog a chyngresau cenedlaethol.[92] O dan reolaeth lem y wladwriaeth, parhaodd economi Fietnam i gael ei effeithio gan aneffeithlonrwydd, llygredd, ansawdd gwael a thangynhyrchu.[93][94][95] Gyda'r dirywiad mewn cymorth economaidd gan ei brif bartner masnachu, yr Undeb Sofietaidd, yn dilyn erydiad y bloc Dwyreiniol ddiwedd yr 1980au, a chwymp dilynol yr Undeb Sofietaidd, yn ogystal â'r effeithiau negyddol yr embargo masnach ar ôl y rhyfel a orfodwyd gan yr Unol Daleithiau,[96][97] dechreuodd Fietnam ryddfrydoli ei masnach trwy ddibrisio ei chyfradd cyfnewid i gynyddu allforion a chychwyn ar bolisi datblygu economaidd.[96]

Photograph of Vietnam's tallest skyscraper, the Landmark 81, located in Bình Thạnh District in Ho Chi Minh City
Nendwr talaf Fietnam, y Landmark 81 wedi'i leoli yn Bình Thạnh, Dinas Ho Chi Minh (Saigon).

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) yn 2012, y gyfradd ddiweithdra yn Fietnam oedd 4.46%.[89] Yr un flwyddyn, cyrhaeddodd CMC enwol Fietnam UD $138 biliwn, gyda CMC enwol y pen o $1,527.[89] Rhagwelodd yr HSBC hefyd y byddai cyfanswm CMC Fietnam yn rhagori ar rai Norwy, Singapore a Phortiwgal erbyn 2050.[98][99] rhagolwg arall gan PricewaterhouseCoopers yn 2008 y gallai Fietnam fod yr economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd erbyn 2025, gyda chyfradd twf bosibl o bron i 10% y flwyddyn mewn termau doler go iawn.[100] Ar wahân i economi'r sector cynradd, mae twristiaeth wedi cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd Fietnam gyda 7.94 miliwn o ymwelwyr tramor yn 2015.[101]

Ynni

Photograph of the Son La Dam
Argae Sơn La yng ngogledd Fietnam, yr argae ynni hydro mwyaf yn Ne-ddwyrain Asia[102]

Rheolir y sector ynni gan Grŵp Trydan Fietnam (EVN) a reolir gan y wladwriaeth yn bennaf. O 2017 ymlaen, roedd EVN yn cynnwys tua 61.4% o system cynhyrchu pŵer y wlad gyda chyfanswm capasiti pŵer o 25,884 MW.[103] Ffynonellau ynni eraill yw PetroVietnam (4,435 MW), Vinacomin (1,785 MW) a 10,031 MW gan fuddsoddwyr adeiladu-gweithredu-trosglwyddo (BOT).[104]

Mae'r rhan fwyaf o bŵer Fietnam yn cael ei gynhyrchu naill ai gan ynni dŵr neu bŵer tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy, tra bod disel, ynni dŵr ar raddfa bach ac ynni adnewyddadwy yn cyflenwi'r gweddill.[104] Roedd llywodraeth Fietnam wedi bwriadu datblygu adweithydd niwclear ond rhoddwyd y gorau i'r cynllun ddiwedd 2016 pan bleidleisiodd mwyafrif y Cynulliad Cenedlaethol i wrthwynebu'r prosiect oherwydd pryder cyhoeddus eang ynghylch halogi ymbelydrol.[105]

Addysg

Gwisg ysgol wen, draddodiadol Fietnam ar gyfer merched y wlad, yr áo dài.

Mae gan Fietnam rwydwaith helaeth o ysgolion, colegau a phrifysgolion a reolir gan y wladwriaeth a nifer cynyddol o sefydliadau preifat neu wedi'u preifateiddio'n rhannol. Rhennir addysg gyffredinol yn Fietnam yn bum categori: ysgolion meithrin, ysgolion elfennol, ysgolion canol, ysgolion uwchradd, a phrifysgolion. Adeiladwyd llawer o ysgolion cyhoeddus ledled y wlad i godi'r gyfradd llythrennedd genedlaethol, a oedd yn 90% yn 2008.[106] Mae'r mwyafrif o brifysgolion wedi'u lleoli ym mhrif ddinasoedd Dinas Hanoi a Ho Chi Minh gyda system addysg y wlad yn cael ei diwygio'n aml gan y llywodraeth. Mae'r addysg sylfaenol am ddim i'r tlawd er y gallai rhai teuluoedd ddal i gael trafferth i dalu ffioedd dysgu i'w plant heb ryw fath o gymorth cyhoeddus neu breifat.[107] Mae cofrestriad ysgol Fietnam ymhlith yr uchaf yn y byd.[108][109] Cynyddodd nifer y colegau a'r prifysgolion yn ddramatig yn y 2000au o 178 yn 2000 i 299 yn 2005.

Mewn addysg uwch, mae'r llywodraeth yn darparu benthyciadau â chymhorthdal i fyfyrwyr trwy'r banc cenedlaethol, er bod pryderon ynghylch mynediad at y benthyciadau yn ogystal â'r baich ar fyfyrwyr i'w had-dalu.[110][111] Ers 1995, mae nifer y myfyrwyr mewn addysg uwch wedi tyfu ddeg gwaith i dros 2.2 miliwn gydag 84,000 o ddarlithwyr a 419 o sefydliadau addysg uwch.[112] Ceir nifer o brifysgolion tramor sy'n gweithredu colegau preifat, gan gynnwys Prifysgol Harvard (UDA) a Sefydliad Technoleg Brenhinol Melbourne (Awstralia). Mae ymrwymiad cryf y llywodraeth i addysg wedi meithrin twf sylweddol yn safon yr addysg, ond mae angen ei gynnal o hyd i gadw academyddion. Yn 2018, gwnaed archddyfarniad ar ymreolaeth prifysgol sy'n caniatáu iddynt weithredu'n annibynnol heb reolaeth gan y Llywodraeth. Bydd y llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn addysg yn enwedig i'r tlodion gael mynediad at addysg sylfaenol.[113]

Diwylliant

Mae diwylliant Fietnam wedi datblygu dros y canrifoedd o ddiwylliant brodorol y Đông Sơn gyda thyfu reis ar dir gwlyb yn sylfaen economaidd.[14][17] Gwreiddiodd diwylliant Tsieina yn rhai elfennau o ddiwylliant y genedl, gan dynnu ar elfennau o Gonffiwsiaeth, Bwdhaeth Mahāyāna a Taoiaeth yn ei system wleidyddol draddodiadol a'i hathroniaeth.[114][115] Strwythurwyd cymdeithas Fietnam o amgylch dyfg (pentrefi hynafol).[116]

Mae pob person yn Fietnam yn nodi 'pen-blwydd yr hynafiaid' ar y degfed diwrnod o'r trydydd mis lleuad.[117][118] Mae dylanwad diwylliant Tsieina fel y diwylliannau Cantoneg, Hakka, Hokkien a Hainan yn fwy amlwg yn y gogledd lle mae Bwdhaeth yn rhan annatod o'r diwylliant poblogaidd.[119] Er gwaethaf hyn, ceir <i>Chinatowns</i> yn y de, fel yn Chợ Lớn, lle mae llawer o Tsieineaid wedi priodi â Kinh ac yn toddi i'w plith.[120] Yn rhannau canolog a deheuol Fietnam, gwelir olion diwylliant Champa a Khmer yng ngweddillion adfeilion, arteffactau ac hefyd o fewn eu poblogaeth, fel olynydd y diwylliant Sa Huỳnh hynafol. [121] [122] Yn ystod y canrifoedd diwethaf, mae diwylliannau'r Gorllewin wedi dod yn boblogaidd ymhlith y cenedlaethau ifanc.[115]

Canolbwynt traddodiadol diwylliant Fietnam yn seiliedig ar y ddynoliaeth (nhân nghĩa) a chynghanedd rhwng pobl (hòa) lle mae gwerthoedd teuluol a chymunedol yn uchel eu parch.[123] Ceir yma nifer o symbolau diwylliannol allweddol,[124] fel y ddraig Fietnamaidd sy'n deillio o ddelweddau crocodeil a neidr. Darlunir tad cenedlaethol Fietnam, sef Lạc Long Quân fel draig sanctaidd.[125][126][127] Yr aderyn sanctaidd yw'r lạc sy'n cynrychioli mam genedlaethol Fietnam Âu Cơ. Ymhlith y delweddau amlwg eraill sydd hefyd yn cael eu parchu y mae'r crwban, y byfflo a'r ceffyl (fel Rhiannon y Celtiaid).[128] Cred llawer o Fietnamiaid hefyd yn y goruwchnaturiol a'r ysbrydegaeth lle gall melltith neu ddewiniaeth ddod â salwch neu ei achosi trwy beidio â chadw at foeseg grefyddol. Gellir cyflogi ymarferwyr meddygol traddodiadol, a mathau eraill o bobl ysbrydol ac arferion crefyddol i drin claf.[129] Yn yr oes fodern, mae cyfryngau a rhaglenni diwylliannol a reolir gan y llywodraeth wedi dylanwadu'n ddwfn ar fywyd diwylliannol Fietnam.[130] Am ddegawdau lawer, cafodd dylanwadau diwylliannol tramor, yn enwedig y rhai o darddiad Gorllewinol, eu gwahardd. Ond ers y diwygiad diweddar, mae Fietnam wedi gweld mwy o gysylltiad â De-ddwyrain Asia, Dwyrain Asia yn ogystal â diwylliant a chyfryngau'r Gorllewin.[131]

Bwyd

Yn draddodiadol, mae bwyd Fietnam wedi'i seilio ar bum "elfen" blas sylfaenol: sbeislyd (metel), sur (pren), chwerw (tân), hallt (dŵr) a melys (daear).[132] Mae cynhwysion cyffredin yn cynnwys saws pysgod, past berdys, saws soi, reis, perlysiau ffres, ffrwythau a llysiau. Defnyddir yn aml: lemonwellt, sinsir, mintys , mintys Fietnam, coriander hir, sinamon Saigon, tsili llygad aderyn, dail leim a basil.[133] Mae coginio traddodiadol o Fietnam yn adnabyddus am ei gynhwysion ffres, y defnydd lleiaf posibl o olew a dibyniaeth ar berlysiau a llysiau; fe'i hystyrir yn un o'r bwydydd iachaf ledled y byd.[134] Roedd y defnydd o gigoedd fel porc, cig eidion a chyw iâr yn gymharol gyfyngedig yn y gorffennol. Yn hytrach, defnyddiwyd pysgod dŵr croyw, cramenogion (yn enwedig crancod) a'r molwsg. Mae saws pysgod, saws soi, saws gorgimwch a leims ymhlith y prif gynhwysion. Mae gan Fietnam ddiwylliant bwyd stryd cryf, gyda 40 o seigiau poblogaidd i'w cael yn gyffredin ledled y wlad,[135] llawer o seigiau Fietnamaidd nodedig fel gỏi cuốn (rholyn salad), cuhn gwynh (rholyn nwdls reis), bún riêu (cawl vermicelli reis) a nwdls phở yn y gogledd - bwyd a gyflwynwyd i ganol a de Fietnam gan ymfudwyr o'r gogledd.[136][137]

Mae bwydydd lleol yn y gogledd yn aml yn llai sbeislyd na seigiau deheuol, gan fod hinsawdd oerach y gogledd yn cyfyngu ar gynhyrchu sbeis,[138] a defnyddir pupur du yn aml yn lle tsili i gynhyrchu blasau sbeislyd. Gweinir diodydd Fietnamaidd yn y de hefyd yn oer, gyda chiwbiau iâ, yn enwedig yn ystod y tymhorau poeth; mewn cyferbyniad, yn y gogledd mae'n well dewis diodydd poeth mewn hinsawdd oerach. Mae rhai enghreifftiau o ddiodydd Fietnam yn cynnwys cà phê đá (coffi rhew Fietnamaidd), cà phê trứng (coffi wy), chanh muối (sudd leim wedi'i biclo wedi'i halltu), cơm rượu (gwin reis glutinous), nước mía (sudd siwgrcan) a sen sen (Te lotws Fietnam). [139]

Cyfeiriadau

  1. http://tongdieutradanso.vn/uploads/data/6/files/files/Ket%20qua%20toan%20bo%20Tong%20dieu%20tra%20dan%20so%20va%20nha%20o%202019_ca%20bia_compressed.pdf. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2022.
  2. https://www.gso.gov.vn/en/px-web/?pxid=E0201&theme=Population%20and%20Employment.
  3. Pham, Andrew T (2011). "The Returning Diaspora: Analyzing overseas Vietnamese (Viet Kieu) Contributions toward Vietnam's Economic Growth". Working Paper Series No: 1–39. http://www.depocenwp.org/upload/pubs/AndrewPham/VK%20contributions%20to%20VN%20growth_APham_DEPOCENWP.pdf.
  4. Dang, Thuy Vo (2005-01-01). "The Cultural Work of Anticommunism in the San Diego Vietnamese American Community". Amerasia Journal 31 (2): 64–86. doi:10.17953/amer.31.2.t80283284556j378. ISSN 0044-7471. https://doi.org/10.17953/amer.31.2.t80283284556j378.
  5. Woods 2002.
  6. Norman & Mei 1976.
  7. Meacham 1996.
  8. Knoblock & Riegel 2001.
  9. Lieberman 2003.
  10. McKinney 2009.
  11. Akazawa, Aoki & Kimura 1992.
  12. Rabett 2012.
  13. Dennell & Porr 2014.
  14. 14.0 14.1 Higham 1984.
  15. Nang Chung & Giang Hai 2017.
  16. de Laet & Herrmann 1996.
  17. 17.0 17.1 17.2 Calò 2009.
  18. Kiernan 2017.
  19. Cooke, Li & Anderson 2011.
  20. Pelley 2002, t. 151.
  21. Cottrell 2009, t. 14.
  22. Đức Trần & Thư Hà 2000, t. 8.
  23. Nang Chung & Giang Hai 2017, t. 31.
  24. Ooi 2004, t. 932.
  25. Yao 2016, t. 62.
  26. Holmgren 1980.
  27. Taylor 1983, t. 30.
  28. Pelley 2002, t. 177.
  29. Cottrell 2009, t. 15.
  30. Thái Nguyên & Mừng Nguyẽ̂n 1958, t. 33.
  31. Chesneaux 1966, t. 20.
  32. anon. 1972, t. 24.
  33. Tuyet Tran & Reid 2006, t. 32.
  34. Protected Areas and Development Partnership 2003.
  35. Fröhlich et al. 2013.
  36. Natural Resources and Environment Program 1995.
  37. 37.0 37.1 Huu Chiem 1993.
  38. Minh Hoang et al. 2016.
  39. Hong Truong, Ye & Stive 2017.
  40. Vietnamese Waters Zone.
  41. Cosslett & Cosslett 2017.
  42. Van De et al. 2008.
  43. Hong Phuong 2012.
  44. Việt Nam News 2016.
  45. Vietnam Ministry of Culture, Sports and Tourism 2014.
  46. Boobbyer & Spooner 2013.
  47. Cosslett & Cosslett 2013.
  48. Anh 2016a.
  49. The Telegraph.
  50. Vu 1979.
  51. Riehl & Augstein 1973.
  52. 52.0 52.1 Buleen 2017.
  53. Vietnam Net 2018a.
  54. "Vietnamese amazed at snow-capped northern mountains". VnExpress. 11 Ionawr 2021.
  55. 55.0 55.1 Thi Anh.
  56. Overland 2017.
  57. "Report: Flooded Future: Global vulnerability to sea level rise worse than previously understood". climatecentral.org. 29 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-02. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  58. 58.0 58.1 Vietnam National Environment Administration.
  59. UNESCO World Heritage Convention 1994.
  60. UNESCO World Heritage Convention 2003.
  61. Pha Le 2016.
  62. Banout et al. 2014.
  63. 63.0 63.1 Cerre 2016.
  64. Brown 2018.
  65. Agence France-Presse 2016.
  66. MacLeod 2012.
  67. United States Agency for International Development.
  68. Stewart 2018.
  69. 69.0 69.1 69.2 Government of Vietnam (II).
  70. Greenfield 1994, t. 204.
  71. Baccini, Impullitti & Malesky 2017.
  72. The Economist 2008.
  73. Taylor & Rutherford 2011, t. 50.
  74. Yan 2016.
  75. 75.0 75.1 Voice of Vietnam 2016.
  76. The Economic Times 2018.
  77. The Japan Times 2015.
  78. Voice of Vietnam 2018b.
  79. Russia Ministry of Defence 2018.
  80. The Telegraph 2012.
  81. United Nations Treaty Collection.
  82. Giap 2017.
  83. 83.0 83.1 BBC News 2009.
  84. Mydans 2009.
  85. "VIET NAM – UN ACT". UN-Act.
  86. "Women, children and babies: human trafficking to China is on the rise". Asia News. 11 Gorffennaf 2019.
  87. "Vietnam's Human Trafficking Problem Is Too Big to Ignore". The Diplomat. 8 Tachwedd 2019.
  88. Japan Ministry of Land, Infrastructure, Transport and Tourism.
  89. 89.0 89.1 89.2 International Monetary Fund.
  90. Cornell University.
  91. Kim Phuong 2014.
  92. Kimura 1986.
  93. Adhikari, Kirkpatrick & Weiss 1992.
  94. Ngoc Vo & Le 2014.
  95. Van Tho 2003.
  96. 96.0 96.1 Litvack, Litvack & Rondinelli 1999.
  97. Freeman 2002.
  98. Lyimo 2016.
  99. Tuổi Trẻ News 2012.
  100. PWC 2008.
  101. Vietnam Net 2016a.
  102. Intellasia 2010.
  103. Electricity of Vietnam 2017, t. 10.
  104. 104.0 104.1 Electricity of Vietnam 2017, t. 12.
  105. Nguyen et al. 2016.
  106. UNICEF.
  107. Ha Trân 2014.
  108. World Bank 2013.
  109. World Bank 2015.
  110. Pham 2012.
  111. Chapman & Liu 2013.
  112. de Mora & Wood 2014.
  113. Vietnam Net 2016b.
  114. Tung Hieu 2015.
  115. 115.0 115.1 Nhu Nguyen 2016.
  116. Endres 2001.
  117. Grigoreva 2014.
  118. UNESCO Intangible Cultural Heritage 2012.
  119. Zhu et al. 2017.
  120. McLeod & Thi Dieu 2001.
  121. Momoki 1996.
  122. Kỳ Phương & Lockhart 2011.
  123. Zhu et al. 2017, t. 142.
  124. Vo 2012, t. 96.
  125. Grigoreva 2014, t. 4.
  126. Gallop 2017.
  127. Vietnamese-American Association.
  128. Chonchirdsin 2016.
  129. Waitemata District Health Board 2015, t. 2.
  130. Nhu Nguyen 2016, t. 32.
  131. Phuong 2012.
  132. Vietnam Culture Information Network 2014.
  133. Australia Special Broadcasting Service 2013.
  134. Corapi 2010.
  135. Clark & Miller 2017.
  136. Nguyen 2011.
  137. Thaker & Barton 2012.
  138. Williams 2017.
  139. Batruny 2014.