Nos
![]() | |
Math | adeg o'r dydd ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | dydd ![]() |
Rhan o | diwrnod ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Machlud ![]() |
Olynwyd gan | bore, foreglow ![]() |
Yn cynnwys | hanner nos, oriau mân ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Peter_Nicolai_Arbo_-_Natten_-_Nasjonalmuseet_-_NG.M.03666.jpg/250px-Peter_Nicolai_Arbo_-_Natten_-_Nasjonalmuseet_-_NG.M.03666.jpg)
Nos yw'r gwrthwyneb i ddydd. Y nos yw'r ysbaid o dywyllwch rhwng diwedd un dydd a dechrau'r un nesaf, yn arbennig ar ôl i'r haul fachlud yn gyfangwbl a chyn iddo ddechrau codi eto yn y bore.
Mae hyd y nos yn amrywio o le i le. Ar y cyhydedd mae hyd nos a dydd yn gyfartal. Yn hemisffer y gogledd mae'r nos yn fyrrach yn yr haf nac yn y gaeaf. Mewn rhai ardaloedd agos i Begwn y Gogledd ni cheir nos o gwbl am gyfnod yn yr haf ond ceir tywyllwch llwyr am gyfnod yn y gaeaf.
Mytholeg
Ym mytholeg mae'r nos yn cael ei chynrychioli gan dduw neu dduwies yn aml. Nox oedd duwies y nos i'r hen Roegiaid er enghraifft. Credir fod bodau goruwchnaturiol yn dod allan yn y nos mewn rhai traddodiadau. Lilith yw diafoles y nos yn y traddodiadau Iddewig a Mesopotamiaidd, er enghraifft.
Gwyliau ac ystyron eraill
- Nos Galan Ionawr, ar ddiwedd yr hen flwyddyn
- Nos Galan Gaeaf, Hallowe'en
- Nos Galan Mai, neu Nos Gla'mai
- Nos Nadolig
- Nos Basg, cyn y Pasg
- 'Nos Sadwrn Bach', ar lafar yn Arfon am 'Nos Fercher'
- Nos Ystwyll, Twelfth Night