Rheilffordd Ysgafn Docklands
Math | light rail, trafnidiaeth gyflym awtomataidd, llinell rheilffordd |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
Agoriad swyddogol | 31 Awst 1987 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Transport for London |
Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Hyd | 24 milltir |
Nifer y teithwyr | 116,800,000 |
Rheolir gan | Serco Group, Keolis Amey Docklands |
Perchnogaeth | Transport for London, London Regional Transport, London Docklands Development Corporation |
Rheilffordd ysgafn sy'n gwasanaethu Docklands Llundain, sef ardal y dociau a ailddatblygwyd yn Llundain yn y 1980au, yw Rheilffordd Ysgafn Docklands (Saesneg: Docklands Light Railway; DLR). Mae'n darparu cysylltiad uniongyrchol rhwng dwy brif ardal ariannol Llundain, sef Dinas Llundain a Canary Wharf. Fe'i hagorwyd ar 31 Awst 1987. Mae wedi cael ei hymestyn sawl gwaith, gan roi cyfanswm hyd o 38 km (24 milltir). Mae llinellau bellach yn cyrraedd y gogledd i Stratford, i'r de i Lewisham, i'r gorllewin i Tower Gateway a Bank yn ardal ariannol Dinas Llundain, ac i'r dwyrain i Beckton, Maes Awyr Dinas Llundain a Woolwich Arsenal.[1]
Gweithredir y gwasanaeth yn awtomatig, felly ychydig iawn o staff sydd ar y 149 trenau (sydd heb gabiau gyrru) ac mewn gorsafoedd cyfnewidfa mawr.
Map
Cyfeiriadau
- ↑ Jolly, Stephen (1986). Docklands Light Railway : official handbook 1987. Bob Bayman. Harrow Weald: Capital Transport. t. 7. ISBN 0-904711-80-3. OCLC 18746528.