Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Rwmania (Rwmaneg: Echipa națională de fotbal a României) yn cynrychioli Rwmania yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Rwmania (Rwmaneg: Federația Română de Fotbal ) (FRF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FRF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).