Geoffrey Chaucer
Geoffrey Chaucer | |
---|---|
Geoffrey Chaucer (llun dychmygol) | |
Ganwyd | c. 1343 Llundain |
Bu farw | c. 25 Hydref 1400 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, awdur geiriau, athronydd, gwleidydd, cyfieithydd, astroleg, llenor |
Swydd | Member of the 1386 Parliament |
Adnabyddus am | The Canterbury Tales, The Book of the Duchess, The House of Fame, Troilus and Criseyde, The Legend of Good Women, The compleynt unto Pity, A Treatise on the Astrolabe, The compleynt of Venus, The Complaint of Mars, Chaucer's complaint unto his purse, Boece, Parlement of Foules, The Romaunt of the Rose, Anelida and Arcite |
Arddull | barddoniaeth |
Tad | John Chaucer |
Mam | Agnes Copton |
Priod | Philippa Roet |
Plant | Thomas Chaucer, Elizabeth Chaucer, Lewis Chaucer |
llofnod | |
Llenor Saesneg o Loegr oedd Geoffrey Chaucer (c. 1343 – 25 Hydref, 1400?). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Canterbury Tales ("Chwedlau Caergaint").[1]
Bywgraffiad
Ganed ef yn Llundain tua 1343, ond does dim sicrwydd am y dyddiad hwnnw. Bu'n ŵr llys, diplomydd a gwas sifil. Pan ymosododd Edward III, brenin Lloegr, ar Ffrainc yn nechrau'r Rhyfel Can Mlynedd, aeth Chaucer i Ffrainc gyda Lionel o Antwerp, Dug Clarence. Yn 1360, cymerwyd ef yn garcharor yng ngwarchae Reims; cafodd ei ryddhau am dâl.
Nid oes llawer o fanylion ar gael am ei fywyd, ond ymddengys iddo deithio yn Ffrainc, Sbaen a Fflandrys, ac iddo efallai fynd ar bererindod i Santiago de Compostela. Tua 1366, priododd Philippa (de) Roet. Ymwelodd a Genova a Fflorens yn 1373, a chredir i farddoniaeth yr Eidal ddylanwadu arno.
Yn 1374 cafodd swydd Comptroller porthladd Llundain, swydd a ddaliodd am ddeuddeng mlynedd. Credir iddo ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod yma, gan ddechrau gweithio ar The Canterbury Tales yn y 1380au cynnar. Daeth yn Aelod Seneddol dros Swydd Caint yn 1386.
Llenyddiaeth Saesneg Canol |
---|
Barddoniaeth gynnar
|
Y rhamant
|
Yr adfywiad cyflythrennol |
Oes Chaucer |
|
Gweithiau
- Cyfieithiad o'r Roman de la Rose, efallai The Romance of the Rose
- The Book of the Duchess
- The House of Fame
- Anelida and Arcite
- Parlement of Foules
- Cyfieithiad o waith Boethius' Cysur Athroniaeth fel Boece
- Troilus and Criseyde
- The Legend of Good Women
- The Canterbury Tales
- Treatise on the Astrolabe
Cerddi byrion
- An ABC
- Chaucers Wordes unto Adam, His Owne Scriveyn
- The Complaint unto Pity
- The Complaint of Chaucer to his Purse
- The Complaint of Mars
- The Complaint of Venus
- A Complaint to His Lady
- The Former Age
- Fortune
- Gentilesse
- Lak of Stedfastnesse
- Lenvoy de Chaucer a Scogan
- Lenvoy de Chaucer a Bukton
- Proverbs
- To Rosemounde
- Truth
- Womanly Noblesse
Cyfeiriadau
- ↑ "Poets' Corner History" (yn Saesneg). WestminsterAbbey.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-24. Cyrchwyd 12 Mai 2020.