Thomas Jefferson
Thomas Jefferson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Ebrill 1743 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Shadwell ![]() |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1826 ![]() o wremia ![]() Monticello ![]() |
Man preswyl | Monticello, Hôtel de Langeac ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, cryptograffwr, pensaer, cyfreithiwr, llenor, diplomydd, gwleidydd, athronydd, dyfeisiwr, ffermwr, gwladweinydd, archeolegydd, cyfreithegwr, paleontolegydd ![]() |
Swydd | Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, llysgennad yr Unol Daleithiau i Ffrainc, Governor of Virginia, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the Virginia House of Delegates ![]() |
Prif ddylanwad | Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury ![]() |
Taldra | 1.89 metr, 189 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Democratic-Republican Party ![]() |
Tad | Peter Jefferson ![]() |
Mam | Jane Randolph Jefferson ![]() |
Priod | Martha Jefferson ![]() |
Partner | Sally Hemings ![]() |
Plant | Martha Jefferson Randolph, Mary Jefferson Eppes, Madison Hemings, Harriet Hemings, Eston Hemings, Jane Randolph Jefferson, unnamed son Jefferson, Lucy Elizabeth Jefferson I, Lucy Elizabeth Jefferson II ![]() |
Perthnasau | Dabney Carr ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America ![]() |
llofnod | |
![]() |
Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 – 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.
Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl Calendr Gregori a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.
Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,[1] ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.[2] Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Gymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.
Cyfeiriadau
- ↑ Foster, EA; Jobling MA, Taylor PG, Donnelly P, de Knijff P, Mieremet R, Zerjal T, Tyler-Smith C (1998). "Jefferson fathered slave's last child". Nature 396 (6706): 27–28. doi:10.1038/23835. PMID 9817200. http://www.familytreedna.com/pdf/Jeffersons.pdf. Adalwyd 2012-08-04.
- ↑ "The Scholars Commission on the Jefferson-Hemings Issue" Archifwyd 2017-06-29 yn y Peiriant Wayback, 2001, Thomas Jefferson Heritage Society