Argyfwng tai Cymru

Ceir canran uchel iawn o dai gwyliau yng Nghwmyreglwys, Sir Benfro

Diffyg cartrefi i ddinasyddion Cymru ydy'r argyfwng tai yn y bôn. Achosir yr argyfwng presennol (2020au) gan gyfuniad o ffactorau, megis, lefelau uchel o fewnfudo,[1] cynnydd mewn niferoedd ail gartrefi a thai haf,[2] cyflogau isel, a chynnydd mewn prisiau tai.[3][4] Gwaethygir y sefyllfa gan effeithiau pandemig COVID-19.[2][4] Cyfranna’r argyfwng at ddirywiad yr iaith Gymraeg yn y Fro Gymraeg, yn ogystal â chymunedau tu allan i’r Fro.[1]

Hanes

Nid ffenomenon newydd ydy'r argyfwng tai: mae gan y Cymry hanes hir o orfod brwydro am yr hawl i fyw yn eu milltiroedd sgwâr a'u cymunedau eu hunain. Profwyd problemau sylweddol gyda chrynodiadau uchel o ail gartrefi a thai haf yng Nghymru mor bell yn ôl a'r 1970au – rhoddwyd rhan helaeth o bentref Derwen-gam ar werth ar ddechrau’r degawd hwnnw, ac fe gafodd nifer fawr o’r tai eu gwerthu fel tai haf.[5] Gwaethygu wnaeth y sefyllfa ar ôl hynny: er enghraifft, erbyn 1980 roedd tua 66% o dai pentref Llangrannog yn dai haf;[6] erbyn 1991 roedd tua 6% o dai Sir Benfro yn ail gartrefi neu’n gartrefi gwyliau;[7] ac erbyn 2004 roedd tua 33% o dai pentref Abersoch yn ail gartrefi.[8]

Gwelwyd gweithredu di-drais gan nifer o fudiadau cenedlaetholgar Cymreig (megis Adfer, Cymuned a Chymdeithas yr Iaith) mewn ymateb i'r argyfwng tai dros y blynyddoedd. Gwelwyd hefyd weithredu treisgar gan fudiad Meibion Glyndŵr gyda’u hymgyrch llosgi tai haf. Er gwaethaf eu holl ymdrechion i geisio atal erydiad cymunedau Cymreig, mae'r Gymru gyfoes mewn sefyllfa waeth nag erioed, gyda nifer o gymunedau bron a bod wedi eu colli'n llwyr i ail gartrefi a thai haf.[9]

Enghreifftiau

Gwynedd

Yn 2020, roedd tua 11% o stoc dai Gwynedd naill ai’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau.[2] Roedd tua 60% o drigolion y sir yn methu â fforddio prynu tŷ yno yn 2019.[10] Mae nifer o’r trigolion yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i gyfyngu ar niferoedd tai haf, adeiladau tai i bobl leol, a chreu swyddi o safon yn y sir.[11]

Abersoch

Yn 2020, roedd 46% o’r stoc dai yn Abersoch yn ail gartrefi yn ôl y diffiniad ehangach sy’n cynnwys llety gwyliau masnachol.[2] Mae 95% o bobl leol yn methu â fforddio prynu tŷ yn Abersoch yn ôl ffigyrau Hwyluswyr Tai Gwledig Grŵp Cynefin.[12]

Aberdyfi

Ym mis Hydref 2021 datgelwyd bod 54% o’r holl eiddo ym mhentref Aberdyfi naill ai'n ail gartrefi, tai gwyliau ar osod, neu’n wag. Datgelwyd hefyd fod 62.3% o aelwydydd lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad leol.[13]

Sir Benfro

Yn 2020, roedd dros 9% o stoc dai Sir Benfro naill ai’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau.[2]

Cwmyreglwys

Dim ond un siaradwr Cymraeg, gŵr 88 oed o'r enw Norman Thomas, oedd yn byw yng Nghwmyreglwys yn 2021, gyda chanran uchel iawn o dai'r pentref glan môr yn dai gwyliau.[9][14] Mewn cyfweliad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Norman taw ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am sefyllfa ei bentref; soniodd am ddiffyg swyddi yn Sir Benfro, anallu pobl leol i fforddio tai lleol, a diffyg ymateb y llywodraeth i'r cynnydd yn niferoedd ail gartrefi. Mynegodd hefyd ei dristwch o fod y siaradwr Cymraeg olaf yn y pentref.[15]

Ymgyrchoedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo, i sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu cymunedau eu hunain, ers diwedd y '70au.[16] Daeth dros fil o bobl i brotestiadau Nid yw Cymru ar Werth yn 2022 a 2023, i geisio dwyn sylw i'r argyfwng.[17][18]

Sefydlwyd grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra gan aelodau Cyngor Tref Nefyn i bwyso ar y llywodraeth i ymateb i'r argyfwng.[19] Crëwyd Siarter Cyfiawnder Cartrefi gan ymgyrchwyr eraill yn 2020.[20] Denodd deiseb yn galw ar y llywodraeth i gymryd camau brys i ddatrys yr argyfwng tai dros 6,400 o lofnodion yn 2022.[21]

Mae nifer o gerddorion Cymreig, gan gynnwys Al Lewis, Bwca, Elis Derby, a Catrin O’Neill, wedi parhau â’r traddodiad hir o recordio caneuon protest am y sefyllfa.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ail gartrefi gan yr academydd Simon Brooks; cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mawrth 2021.[22]

Cyhoeddodd y llywodraeth rhestr o gamau gweithredu fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru ym mis Tachwedd 2021 – mae’r camau yn cynnwys, cap posibl ar nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn unrhyw gymuned, a rhoi rhagor o bwerau i’r awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi.[23] Lluniwyd hefyd Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg er mwyn ceisio cynnig cefnogaeth i gymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.[24]

Croesawyd y camau gweithredu gan fwyafrif o ymgyrchwyr yr argyfwng tai,[25] er roedd nifer yn pryderu nad oedd yr ymateb yn mynd yn ddigon pell.[26] Gwelwyd cryn wrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth gan berchnogion tai haf.[27]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Phillips, Dylan. "Croeso i Gymru?". Prifysgol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Brooks, Simon (2021). "Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru" (PDF). Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
  3. "Trafferthion prynu wrth i brisiau tai gyrraedd yr uchaf erioed". BBC Cymru Fyw. 17 Hydref 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  4. 4.0 4.1 "Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2022". Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  5. "Hanes Derwen Gam ac O Gam I Gam". Mixcloud. Radio Beca. 2015.
  6. "O'r Archif: Tai Haf Llangrannog". Facebook. BBC Cymru Fyw. 1980.
  7. "Adroddiad Ymchwil ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwyliau a'r System Gynllunio Defnydd Tir" (PDF). Llywodraeth Cymru. 2002. t. 88. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
  8. "Holiday home ban rejected". North Wales Live. 20 Mai 2004. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
  9. 9.0 9.1 "Pentref lle mae bron pob tŷ yn dŷ gwyliau". BBC Cymru Fyw. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  10. "Rheoli'r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau" (PDF). Cyngor Gwynedd. Rhagfyr 2020. t. 40. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
  11. "'Gwarth bo' ni methu fforddio tŷ yn ein pentrefi'". BBC Cymru Fyw. 6 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
  12. "Cymdeithas dai yn cynnal cynllun peilot tai fforddiadwy yn Nwyfor". Golwg360. 24 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  13. "Canlyniadau a Chanfyddiadau Arolwg Cymuned Aberdyfi 2021" (PDF). Cyngor Cymuned Aberdyfi. Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
  14. Clements, Laura (19 Mehefin 2021). "The beautiful village which became the centre of Wales' second home debate". WalesOnline.
  15. "Siaradwr Cymraeg ola' Cwm-yr-Eglwys". Facebook. BBC Cymru Fyw. 2 Mehefin 2021.
  16. "1500 yn ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau". Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 7 Mai 2023.
  17. "Rali yn Aberystwyth i dynnu sylw at yr argyfwng tai". BBC Cymru Fyw. 19 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  18. "1,500 o bobol yn rali Nid yw Cymru ar Werth". Golwg360. 8 Mai 2023.
  19. "Hawl i Fyw Adra: yr argyfwng tai "yn teimlo fel brwydr barhaus"". Golwg360. 26 Medi 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  20. "Y Siarter Cyfiawnder Cartrefi". Y Siarter Cyfiawnder Cartrefi.
  21. "Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  22. "Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi adroddiad 'Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru'". Llywodraeth Cymru. 2 Mawrth 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
  23. "Y Cytundeb Cydweithio: rhaglen bolisi lawn". Llywodraeth Cymru. 1 Rhagfyr 2021.
  24. "Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg". Llywodraeth Cymru. 11 Hydref 2022.
  25. Dafydd, Cadi (7 Gorffennaf 2022). "Mesurau taclo Tai Haf – "arloesol tu hwnt"". Golwg.
  26. Dafydd, Cadi (2 Mawrth 2022). "Yr ymateb i'r argyfwng tai "ddim yn mynd ddigon pell"". Golwg360.
  27. "Second home owner says 300% council tax hike in Wales is 'morally indefensible'". North Wales Live. 2 Mawrth 2022.